Part of the debate – Senedd Cymru am 12:47 pm ar 30 Rhagfyr 2020.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol iawn dechrau'r sylwadau nid yn unig gyda diolch i staff ond drwy gydnabod pa mor annerbyniol yw beirniadu neu ymosod ar ein staff, boed ar y cyfryngau cymdeithasol neu fel arall, am y gwaith a wnânt, a bod yn onest gyda'r cyhoedd ynglŷn â maint yr heriau a wynebwn. Ond mae maint yr her sy'n ein hwynebu yn cadarnhau pam ein bod ar lefel 4. Y rheswm pam ein bod ar lefel 4 yw oherwydd bod cymaint o'r feirws yn cylchredeg ac oherwydd y pwysau eithriadol y mae ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn ymdopi ag ef.
Ac ystyriwch hyn: mae mwy na 2,600 o bobl yn cael eu trin ar gyfer COVID mewn gwelyau ysbyty yma yng Nghymru—mwy nag ar anterth y don gyntaf ym mis Ebrill. Mae mwy na 1,600 o bobl y cadarnhawyd eu bod yn dioddef o COVID yn ein gwelyau ysbyty. Mae cannoedd o bobl o hyd—credaf fod dros 700 o bobl—yn gwella o COVID yn ein gwelyau ysbyty. Maent yn dal i fod angen y gofal a'r driniaeth na all dim ond gwely GIG ei ddarparu. Ac mae mwy na 200 o bobl mewn gofal critigol. Nid materion bach yw'r rhain. Mae'n dangos y niwed difrifol sydd eisoes yn cael ei wneud, a phe na baem ynghanol cyfyngiadau lefel 4, mae arnaf ofn y gallem fod yn sicr y byddai mwy o bobl eto'n mynd i ysbytai yn ystod y pythefnos i dair wythnos nesaf, a byddai perygl gwirioneddol y byddai ein GIG yn cael ei orlethu. Dyna pam y mae'r mesurau lefel 4 ar waith, a dyna pam y mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ailadrodd y neges 'arhoswch gartref' wrth ein hetholwyr mewn unrhyw ran o'r wlad, sut bynnag y byddant yn pleidleisio, neu os ydynt yn dewis peidio â phleidleisio, os mai dyna yw eu dewis. Mae hyn yn ymwneud â phob un ohonom yn rhan o hyn gyda'n gilydd.
Ar frechu, rwy'n hapus i gadarnhau eto ein bod yn cael ein cyfran. Gwn fod y cwestiwn yn cael ei godi'n rheolaidd ac rwy'n dal i roi'r un ateb: rydym yn cael ein cyfran o bob un o'r brechlynnau yn ôl maint y boblogaeth. Mewn gwirionedd, gyda brechlyn Rhydychen, caiff rhan sylweddol ohono ei weithgynhyrchu yng ngogledd Cymru. Felly, mae'r cadwyni cyflenwi ar ei gyfer yn fyrrach ac yn fwy diogel o'n safbwynt ni. Ond mae'r newyddion da iawn yn dod yn ôl at gwestiynau'r Aelod ynglŷn â mynediad, a chyflymu'r rhaglen ar gyfer ein dinasyddion mwyaf agored i niwed. Gan fod brechlyn Rhydychen yn haws i'w storio a'i gludo, bydd yn caniatáu mwy o gyflymder a mynediad ymarferol, felly ni fydd angen inni symud pobl i ganolfannau brechu mwy o faint. Bydd ymarfer cyffredinol a fferylliaeth gymunedol yn gallu cyflawni mwy o'r gwaith hwn. Rwy'n falch iawn eu bod mor barod i wneud nid yn unig o ran cytuno'r contractau ar gyfer hyn, ond o ran eu bod eisiau mynd ymlaen wedyn i fwrw ati i frechu eu cleifion a phobl y gwyddant amdanynt mewn nifer mwy ac mewn ystod ehangach o leoedd ledled y wlad. Ond bydd hefyd yn golygu y bydd pobl sy'n gaeth i'w cartrefi, boed mewn lleoliad gofal preswyl neu fel arall, yn llawer haws eu cyrraedd gyda'r brechlyn newydd.
Ar y brechlyn, cyhoeddir y ffigurau swyddogol yfory, ac nid wyf yn credu y byddant yn dangos bod Cymru ar ei hôl hi o gwbl. Mae braidd yn rhwystredig clywed, pryd bynnag y caiff stori ei chyhoeddi fod Cymru rywsut ar ei hôl hi, fod y stori honno'n lledaenu'n gyflymach nag unrhyw adeg pan fyddwn ar y blaen o'i gymharu â gwledydd eraill, a dyma enghraifft arall eto o hynny. Ar hyn o bryd rydym yn brechu tua 2,000 o bobl y dydd. Ar ôl wythnos neu ddwy o gael brechlyn Rhydychen ar gael, pan fyddwn wedi gallu profi ein systemau, rwy'n disgwyl y byddwn yn dechrau cyflymu a brechu llawer mwy o bobl, fel y bydd gwledydd eraill y DU yn wir.
Fodd bynnag, dylwn nodi pe bai'r Aelod yn edrych ar y newyddion yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban neu Loegr, byddai'n dod o hyd i bobl yno hefyd mewn cartrefi gofal neu dros 80 oed yn mynegi pryderon nad yw'r GIG wedi cysylltu â hwy na'u cyrraedd eto. Nid yw'r syniad mai Cymru'n unig sy'n methu cyrraedd pobl agored i niwed yn wir. Mae gennym lawer iawn o bobl sy'n agored i niwed i'w cyrraedd. Mae dros 360,000 o ddinasyddion Cymru yn y ddau gategori blaenoriaeth cyntaf rydym yn eu brechu ar hyn o bryd, felly bydd yn cymryd amser i frechu'r holl bobl hynny. Nid ydym ar ei hôl hi o'i gymharu â gwledydd eraill. Rydym yn gwneud cynnydd, ac fel y dywedais, gallwch siarad â rhai dros 80 oed yn Lloegr, yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon na chysylltwyd â hwy eto, oherwydd ni fyddai'n rhesymol disgwyl i chi fod wedi cynnwys yr holl ran honno o'r boblogaeth hyd yma.
Er hynny, byddwn yn cadw at y dull o flaenoriaethu a nodir yng nghyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Gwn fod hyn yn anodd, oherwydd mae gwahanol grwpiau'n cyflwyno achos dros gael eu gosod yn uwch ar y rhestr, yn uwch na lle maent ar y rhestr flaenoriaeth honno. Ond mae'r rhestr flaenoriaeth yno i ddangos lle gellir rhoi'r budd mwyaf, a'r hyn a olygaf yw lle gellir achub y nifer fwyaf o fywydau. Mae'n beth da fod pobl sy'n gweithio yn ein hysgolion yn ymwybodol nad ydynt yn broffesiwn risg uchel o ran COVID. Nid yw eu galwedigaeth yn eu gosod mewn mwy o berygl na phroffesiynau eraill, ond mewn gwirionedd, mae ein staff sy'n gweithio ar y rheng flaen ym maes iechyd a gofal mewn mwy o berygl.
Rydym yn cyflawni cynllun peilot gyda Heddlu De Cymru a gaiff ei gefnogi gan bob heddlu, oherwydd maent yn cydnabod bod y cyswllt corfforol a gânt ag aelodau o'r cyhoedd, gan gynnwys wrth orfodi rhai o'r deddfau COVID y bu'n rhaid i ni eu cyflwyno i gadw pobl yn ddiogel, yn golygu eu bod ar lefel wahanol o risg. Mae'r profion cyfresol hynny'n rhan o'r broses o'u helpu i ddeall ble y maent. Mae'r flaenoriaeth a gawn gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn ymwneud â sut rydym yn cadw pobl yn fyw a sut rydym yn osgoi'r lefelau marwolaethau ychwanegol y byddem yn eu gweld fel arall. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw grŵp proffesiynol cyfrifol am ddadlau y dylent orlamu grŵp o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed a allai ddioddef fel arall, a cholli eu bywydau o bosibl. Felly, byddwn yn dilyn y cyngor gwrthrychol a roddir i ni.
Rwy'n gwybod eu bod yn edrych ar y dadleuon amrywiol y mae gwahanol grwpiau wedi bod yn eu gwneud. Os bydd y cyngor yn newid ar lefel gymharol yr effaith a'r budd sydd i'w roi, yna, fel y dywedais droeon yn y gorffennol, os bydd y dystiolaeth a'r cyngor yn newid, rhaid i Weinidogion fod yn barod i wneud dewisiadau gwahanol. Byddwn yn parhau i wneud hynny, ond ar hyn o bryd nid oes rheswm dros wyro oddi wrth y rhestr flaenoriaeth bresennol. Byddwn yn defnyddio'r brechlyn i gadw ein gwlad yn ddiogel. Byddwn yn defnyddio'r brechlyn i achub bywydau.