Part of the debate – Senedd Cymru am 1:17 pm ar 30 Rhagfyr 2020.
Diolch i'r Gweinidog, ac ymddiheuriadau i'r Aelodau dwi ddim wedi medru eu galw y prynhawn yma oherwydd y cyfyngiad amser. A gaf i gymryd y cyfle i ddymuno blwyddyn newydd dda i chi i gyd, a blwyddyn newydd well i chi i gyd? Ac fel mae eraill wedi ei wneud yn ystod y prynhawn, a gaf i ddiolch i bawb sydd yn gweithio yma yng Nghymru i'n cadw ni i gyd yn iach ac yn ddiogel dros y Nadolig, ac i mewn i'r flwyddyn newydd? Prynhawn da i chi i gyd, a dyna derfyn ar ein cyfarfod ni heddiw.