3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Goronafeirws

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:10 pm ar 30 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:10, 30 Rhagfyr 2020

Rydych chi wedi cadarnhau rŵan eich bod chi wedi comisiynu gwaith gwyddonol newydd ar ledaeniad y straen newydd o'r feirws ymhlith plant. Cyn cael canlyniadau'r gwaith yna, sut fedrwch chi fod yn hyderus bod cynllun y Gweinidog Addysg i gael pawb yn ôl i'r ysgol erbyn 18 Ionawr yn ddoeth ac yn gynaliadwy o safbwynt atal lledaeniad y straen newydd yma? Onid ydy'r arwyddion ar hyn o bryd yn awgrymu y dylid ailystyried a chynnal y dysgu ar safle ar gyfer grwpiau bychain yn unig heibio 18 Ionawr? Os ydy hi'n anochel y bydd yn rhaid cau'r ysgolion i'r mwyafrif o ddisgyblion, yna, plîs, rhowch wybod mewn da bryd. Os ydy cau yn anorfod er mwyn atal y lledaeniad, mae angen rhoi rhybudd digonol er mwyn i athrawon fedru paratoi i gynnal y dysgu gorau medran nhw ac er mwyn i deuluoedd wneud eu trefniadau.