Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 12 Ionawr 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn sicr, mae'r Bil Masnach hwn wedi bod yn broses hir yn hytrach na digwyddiad, mae'n deg dweud. Gwnaethom ni adrodd ym mis Gorffennaf 2020 ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru, gan wneud naw argymhelliad, ac yna, fis diwethaf, gwnaethom ni adrodd ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol, gan wneud tri argymhelliad arall. Roedd hyn yn dilyn tri adroddiad a wnaethom ni eu paratoi ar y Bil Masnach blaenorol, a ddigwyddodd cyn etholiad cyffredinol y DU yn 2019. Nid ydym ni wedi gallu ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol pellach a gafodd ei osod ddoe gan y Llywodraeth am resymau amlwg. Yn ein hadroddiadau, rydym ni wedi mynegi pryderon sylweddol, nid yn unig ynghylch y Biliau, ond hefyd ynghylch dull Llywodraeth Cymru o ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar faterion sy'n peri pryder, ac mae'r rhain yn faterion yr ydym ni wedi'u codi yn ystod sesiynau tystiolaeth gyda'r Cwnsler Cyffredinol, fel y mae ef yn ymwybodol.
Er enghraifft, mae cymal 1 yn ymwneud â phwerau eang i Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU weithredu'r cytundeb ar gaffael y Llywodraeth. Felly, cawsom ni ein synnu o gael gwybod nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cael sgyrsiau penodol gyda Gweinidogion y DU, o ystyried y gall Gweinidogion y DU arfer y pŵer i wneud rheoliadau eu hunain, heb ofyniad deddfwriaethol i ymgynghori â Gweinidogion Cymru na'r Senedd. Rydym ni'n disgwyl i Weinidogion Cymru sicrhau bod democratiaeth Cymru yn cael ei diogelu drwy sicrhau nad yw'r pwerau sydd wedi'u darparu mewn Bil y DU yn ormodol. Dyma un o swyddogaethau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Gwnaethom ni dri argymhelliad ynghylch cymal 1, gan geisio cymhwyso adolygiad o'r weithdrefn a lleihau ehangder y pŵer. Nid yw'r argymhellion hyn wedi'u hystyried.
Bydd yr Aelodau'n gwybod bod cymal 2 y Bil yn ymwneud â chytundebau masnach rhyngwladol, fel yr amlinellodd y Cwnsler Cyffredinol. Mae'r rhain yn gytundebau a allai gwmpasu amrywiaeth eang o feysydd polisi sy'n dod o fewn cydsyniad deddfwriaethol y Senedd, gan gynnwys amaethyddiaeth a physgodfeydd. Mae cymal 2(6)(a) y Bil yn caniatáu i Weinidogion y DU wneud rheoliadau sy'n diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Gwnaethom ni fynegi braw nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno unrhyw sylwadau i Lywodraeth y DU ynghylch y pŵer hwn. Felly, gwnaethom ni argymell yn ein hadroddiad cyntaf y dylai'r Gweinidog ofyn am welliant i'r Bil i'r perwyl na all Gweinidogion y DU ei ddefnyddio i wneud rheoliadau sy'n diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Yn ein hail adroddiad, gwnaethom ni ddweud nad oeddem ni'n glir pam na chododd Llywodraeth Cymru y mater hwn yn uniongyrchol gyda Gweinidogion y DU, ac fe wnaethom ofyn i Lywodraeth y DU gyflwyno'r gwelliant angenrheidiol. Gwnaethom ni argymell ein bod ni'n cael esboniad am hyn cyn y ddadl heddiw, ac yr oeddem ni'n siomedig nad yw hyn wedi digwydd.
Rydym ni'n credu bod yr egwyddor gyfansoddiadol na ddylai cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd gael ei haddasu gan reoliadau wedi'u gwneud gan Weinidogion y DU yn un bwysig iawn y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei hamddiffyn. Byddai cymal 2(7) y Bil yn galluogi rheoliadau wedi'u gwneud gan Weinidogion y DU i ymestyn yr amser y caiff y DU a Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau cymal 2 am gyfnod pellach, hyd at bum mlynedd heb fod angen ymgynghori â Gweinidogion Cymru na cheisio cydsyniad y Senedd. Gwnaethom ni argymell hefyd y dylai'r Bil gael ei ddiwygio fel y byddai'n rhaid cael cydsyniad y Senedd cyn bod gallu Gweinidogion Cymru i arfer pwerau gweithredol yng Nghymru yn cael ei ymestyn, a theimlodd y pwyllgor ei bod yn destun gofid bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ein hargymhelliad.
Yn lle hynny, mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu, fel yr amlinellodd y Cwnsler Cyffredinol yn ddiweddar, ar ymrwymiad llafar yn Nhŷ'r Cyffredin y bydd proses o ymgynghori â hi cyn i'w phwerau gweithredol gael eu hymestyn. Rwy'n croesawu'r consesiynau lle y cafwyd hwy, ond, fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol, ac mae'n bwynt yr ydym ni wedi'i wneud yn gyson iawn, mae'r safbwynt hwn yn anfoddhaol yn ein barn ni, yn ogystal â'r diffyg diweddariad amserol ar statws yr ymrwymiad llafar hwn yn Nhŷ'r Cyffredin. Rwy'n credu mai'r pwynt yr ydym ni'n ei wneud ynghylch yr ymrwymiadau llafar yn Nhŷ'r Cyffredin, wrth gwrs, yw ein bod yn deall y confensiwn a'i ddefnydd o bryd i'w gilydd; effaith gyffredinol, gronnol y rheini ar y ddeddfwriaeth hon ac ar ddeddfwriaeth arall yw'r hyn sy'n peri pryder sylweddol i ni.
Daw hynny â mi at rai sylwadau cyffredinol ynglŷn â chymalau 1 a 2 y Bil a dibyniaeth Llywodraeth Cymru ar ymrwymiadau llafar yn Nhŷ'r Cyffredin wedi'u gwneud gan Lywodraeth y DU ynghylch sut y bydd pwerau'n cael eu harfer gan Weinidogion y DU. Nid ydym ni'n fodlon â dull Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â diffygion cymalau 1 a 2 drwy geisio'r ymrwymiadau anneddfwriaethol hyn gan Lywodraeth y DU. Yn ein barn ni, credwn ni ei fod yn ddull risg uchel ac yn un sy'n ddiffygiol yn gynyddol ac yn y pen draw hefyd. Bydd gan y Bil, ar ôl ei ddeddfu, oblygiadau sylweddol a allai fod yn hirdymor i sectorau allweddol yng Nghymru, gan gynnwys amaethyddiaeth, pysgodfeydd, iechyd a gweithgynhyrchu. Nawr, rydym ni'n cydnabod bod negodi cytundebau masnach ledled y DU yn parhau i fod yn bŵer a gadwyd yn ôl i Lywodraeth y DU, fodd bynnag, Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am weithredu'r cytundebau masnach hynny mewn meysydd datganoledig yng Nghymru, ac nid ydym ni'n credu bod cytundebau rhynglywodraethol anghyfrwymol yn ffordd effeithiol o ddiogelu buddiannau Cymru.
O ran perthynas yr UE-DU yn y dyfodol, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol yn ei ddatganiad ysgrifenedig ar 18 Mehefin 2020 fod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod
'yn rhwystredig iawn yn sgil absenoldeb unrhyw ymgysylltu ystyrlon.'
Os oes gan Lywodraeth Cymru bryderon o'r fath ynghylch ansawdd yr ymgysylltu â Llywodraeth y DU a'i bod yn credu bod camau diweddar Llywodraeth y DU wedi methu â pharchu sefyllfa'r Llywodraethau datganoledig, yna rydym ni'n ei chael yn anodd deall pam ei bod yn fodlon parhau i ymrwymo i gytundebau rhynglywodraethol anghyfrwymol gyda'r un Llywodraeth—