– Senedd Cymru am 5:28 pm ar 12 Ionawr 2021.
Felly, symudwn nawr i drafod eitem 11, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Masnach, ac rwy'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i wneud y cynnig hwnnw. Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig. Rwy'n falch o allu cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol a chynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol yn berthnasol i Fesur Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar fasnach.
Cafodd y fersiwn hon o'r Bil ei chyflwyno am y tro cyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin ym mis Mawrth 2020 ac mae iddi lawer o debygrwydd i'r fersiwn flaenorol o'r Bil a drafodwyd yn y Senedd ddiwethaf—y Bil Masnach yn 2017-19. Cwblhaodd Bil 2019-20 y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Arglwyddi yn ddiweddar ar 6 Ionawr, ac mae'r fersiwn bresennol o'r Bil yn cynnwys gwelliannau a gafodd eu gwneud yn ystod cyfnodau Tŷ'r Arglwyddi yn ogystal â'r Tŷ Cyffredin.
Yn dilyn ei gyflwyno yn ôl ym mis Rhagfyr 2017, aeth fersiwn 2017-19 o'r Bil drwy lawer o gylchoedd craffu. Cymeradwyodd y Senedd y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn gyntaf ar 12 Mawrth 2019 ac wedyn ar 21 Mai 2019, yng ngoleuni dau femorandwm atodol. Rwyf i yn ôl ger eich bron heddiw ynglŷn â'r fersiwn 2019-2021 gyfredol, sy'n cynnwys rhai darpariaethau a oedd yn y Bil gwreiddiol, ynghyd â rhai gwelliannau ychwanegol y mae angen i'r Senedd eu hystyried ymhellach.
Gosododd Eluned Morgan, ar ran Llywodraeth Cymru, gynnig cydsyniad deddfwriaethol ar 2 Ebrill 2020 yn ymwneud â'r darpariaethau canlynol yn Rhan 1 o'r Bil. Mae cymal 1 yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU mewn awdurdodau datganoledig, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, weithredu darpariaethau'r cytundeb ar gaffael y Llywodraeth, i adlewyrchu'r ffaith bod y DU bellach yn barti annibynnol i'r cytundeb Sefydliad Masnach y Byd hwn, yn dilyn diwedd y cyfnod pontio. Mae cymal 2 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru ac awdurdodau datganoledig, gan gynnwys Gweinidogion Cymru yn benodol, weithredu cytundebau masnach rhyngwladol gyda thrydydd gwledydd, sy'n cyfateb i fathau penodol o gytundebau trydydd gwledydd presennol yr UE. Mae cymal 3 bellach wedi'i gynnwys yng nghymal 11 y Bil; mae'r cymal hwn yn darparu ar gyfer gwahanol fathau o ddarpariaeth y byddai'n bosibl eu gwneud mewn rheoliadau a wnaed o dan gymalau 1 a 2.
Mae cymal 11 hefyd yn rhoi effaith i Atodlenni 1 i 3. Mae Atodlen 1 yn gosod cyfyngiadau ar arfer pwerau Gweinidogion Cymru. Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn a fydd yn berthnasol i reoliadau a wnaed o dan gymalau 1 a 2. Mae Atodlen 3 yn cynnwys eithriadau i gyfyngiadau yn y setliad datganoli. Cafodd cydsyniad ei geisio hefyd ar gyfer cymal 4, sydd bellach wedi'i gynnwys yng nghymal 12 y Bil. Mae'r ddarpariaeth hon yn amlinellu sut y dylai telerau penodol yn Rhan 1 y Bil gael eu dehongli. Gan fod angen ystyried y ddarpariaeth hon ochr yn ochr â chymalau 1, 2 ac 11, mae'r Llywodraeth o'r farn fod angen cydsyniad ar gyfer y ddarpariaeth hon. Mae'r rhain i gyd yn gysylltiedig â Chynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Ebrill 2020.
Rwyf i wedi gosod dau femorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol. Roedd y cyntaf ar 4 Tachwedd 2020 ar gyfer y darpariaethau canlynol sy'n ymwneud â chasglu a rhannu gwybodaeth fasnach ac a oedd wedi'u cynnwys yn Rhan 3 y Bil. Mae'r rhain bellach wedi'u cynnwys yn Rhan 4 y fersiwn gyfredol. Mae cymal 21 yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus penodedig, gan gynnwys porthladdoedd ac awdurdodau iechyd Cymru, ddatgelu gwybodaeth i un o Weinidogion y Goron at ddibenion hwyluso arfer swyddogaethau Gweinidog y Goron yn ymwneud â masnach. Mae cymal 22 yn ei gwneud yn drosedd i berson ddatgelu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy yn groes i'r gofynion yng nghymal 21.
Cafodd memorandwm atodol arall ei osod ar 11 Ionawr ar gyfer Rhan 3 y Bil, fel y'i diwygiwyd yng Nghyfnod Adrodd Tŷ'r Arglwyddi. Mae cymalau 15 i 18 ac Atodlen 6 yn darparu ar gyfer sefydlu'r Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth fel corff statudol, a'i swyddogaeth yw rhoi cyngor annibynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol ar ddarpariaethau perthnasol mewn cytundebau masnach rydd newydd. Hefyd, mae nifer o welliannau nad ydyn nhw'n welliannau i'r Llywodraeth wedi eu pasio yng Nghyfnod Adrodd Tŷ'r Arglwyddi a allai gael eu gwrthdroi pan fydd y Bil yn dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin i ystyried gwelliannau.
Mae cydsyniad y Senedd hefyd yn cael ei geisio ar gyfer y darpariaethau hyn; mae Llywodraeth Cymru yn fodlon ar bob un o'r gwelliannau a byddai'n well ganddi os gallai'r Bil gynnwys y cymalau hyn yn ei ffurf terfynol, ond mae'n argymell cydsynio i'r Bil pa un ai ydyn nhw'n cael eu cadw ai peidio: cymal 3, sy'n ymwneud â chymeradwyaeth seneddol; cymal 6 sy'n ymwneud â gwasanaethau prosesu data iechyd, gofal neu wasanaethau prosesu data wedi'u hariannu yn gyhoeddus; a chymal 8 sy'n ymwneud â safonau. Y rhain, gyda'i gilydd, yw'r darpariaethau y mae cydsyniad yn cael ei geisio ar eu cyfer.
Mae'r Senedd eisoes wedi cydsynio i ddarpariaethau sy'n sylweddol debyg yng nghymalau 1 a 2 y Bil hwn yn y fersiwn wreiddiol ohono, a gafodd ei drafod yn y Senedd ar 21 Mawrth a 12 Mai 2019. Fodd bynnag, ceir rhai gwahaniaethau allweddol. Er enghraifft, gellir bellach ddefnyddio'r pŵer i weithredu cytundeb caffael y Llywodraeth yng nghymal 1 i wneud darpariaeth o ganlyniad i anghydfod. Mae hyn yn ymddangos yn welliant synhwyrol. Mae rhai o'r cyfyngiadau a oedd wedi'u gosod ar awdurdodau datganoledig wedi'u dileu, sy'n golygu y bydd gan Weinidogion Cymru y pŵer o hyd i ddiwygio cyfraith yr UE a gedwir mewn amgylchiadau pan ei bod o fewn cwmpas unrhyw reoliadau rhewgell, y gallai Gweinidogion y DU ei wneud o dan adran 109A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac a fyddai fel arall yn cyfyngu ar gymhwysedd Gweinidogion Cymru i ddiwygio'r categori hwn o ddeddfwriaeth. Mae hynny hefyd yn welliant o ran y Bil gwreiddiol.
Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol am graffu'n fanwl ar y Bil. Mae'n amlwg bod nifer o femoranda cydsyniad deddfwriaethol wedi'u gosod yn erbyn gwahanol fersiynau y Bil hwn, ac rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgorau am eu hystyried. Rwy'n cydnabod bod heriau sylweddol wrth gydgysylltu amserlenni Senedd Cymru a Senedd y DU, ac er bod fy rhagflaenydd a minnau wedi gwneud pob ymdrech i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i'r Bil fynd rhagddo ar ei wahanol ffurfiau drwy'r Senedd, rwy'n barod iawn i gydnabod yr her. Mae amserlen y Bil wedi bod yn anodd, gyda nifer o welliannau Llywodraeth y DU yn gofyn am ystyriaeth ar fyr rybudd, ac oedi yn digwydd, yn anffodus, ar bron bob cam.
Er nad yw rhai o'r argymhellion a gyflwynwyd gan y pwyllgorau craffu wedi'u derbyn, hoffwn sicrhau'r Senedd fy mod i wedi gweithredu i fynd i'r afael ag argymhellion pryd y bu'n bosibl gwneud hynny. Un o'r prif bryderon fu ein parodrwydd i dderbyn ymrwymiadau ar lafar yn Nhŷ'r Cyffredin. Rydym ni wedi cael rhywfaint o lwyddiant cyfyngedig mewn sicrhau newid i wyneb y Bil o ran darpariaethau rhannu data yng nghymal 8, sydd bellach yn cynnwys yr awdurdodau datganoledig yn benodol fel un o'r cyrff y caiff Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi rannu'r data perthnasol sy'n gysylltiedig â masnach â hwy. Ond, yng ngoleuni'r anhawster cyffredinol i gyflawni newidiadau i wyneb y Bil, rydym ni wedi ystyried dewisiadau eraill i sicrhau sicrwydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Cyfaddefir bod ystyried ymrwymiadau ar lafar yn Nhŷ'r Cyffredin yn dechneg amherffaith, ond, er hynny, yn dechneg ddilys a ddefnyddir gan Weinidogion ym mhob Llywodraeth ddatganoledig i ddwyn Llywodraeth y DU i gyfrif, ac mae'r sefyllfa hon, wrth gwrs, fel y mae'r Aelodau yn ymwybodol, wedi ei derbyn o'r blaen gan y Senedd. Cymeradwyaf y cynnig i'r Senedd.
A gaf i nawr alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, David Rees? David Rees, ydych chi yna? Na. Mae'n ymddangos ein bod wedi colli Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Felly, a gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn sicr, mae'r Bil Masnach hwn wedi bod yn broses hir yn hytrach na digwyddiad, mae'n deg dweud. Gwnaethom ni adrodd ym mis Gorffennaf 2020 ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru, gan wneud naw argymhelliad, ac yna, fis diwethaf, gwnaethom ni adrodd ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol, gan wneud tri argymhelliad arall. Roedd hyn yn dilyn tri adroddiad a wnaethom ni eu paratoi ar y Bil Masnach blaenorol, a ddigwyddodd cyn etholiad cyffredinol y DU yn 2019. Nid ydym ni wedi gallu ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol pellach a gafodd ei osod ddoe gan y Llywodraeth am resymau amlwg. Yn ein hadroddiadau, rydym ni wedi mynegi pryderon sylweddol, nid yn unig ynghylch y Biliau, ond hefyd ynghylch dull Llywodraeth Cymru o ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar faterion sy'n peri pryder, ac mae'r rhain yn faterion yr ydym ni wedi'u codi yn ystod sesiynau tystiolaeth gyda'r Cwnsler Cyffredinol, fel y mae ef yn ymwybodol.
Er enghraifft, mae cymal 1 yn ymwneud â phwerau eang i Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU weithredu'r cytundeb ar gaffael y Llywodraeth. Felly, cawsom ni ein synnu o gael gwybod nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cael sgyrsiau penodol gyda Gweinidogion y DU, o ystyried y gall Gweinidogion y DU arfer y pŵer i wneud rheoliadau eu hunain, heb ofyniad deddfwriaethol i ymgynghori â Gweinidogion Cymru na'r Senedd. Rydym ni'n disgwyl i Weinidogion Cymru sicrhau bod democratiaeth Cymru yn cael ei diogelu drwy sicrhau nad yw'r pwerau sydd wedi'u darparu mewn Bil y DU yn ormodol. Dyma un o swyddogaethau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Gwnaethom ni dri argymhelliad ynghylch cymal 1, gan geisio cymhwyso adolygiad o'r weithdrefn a lleihau ehangder y pŵer. Nid yw'r argymhellion hyn wedi'u hystyried.
Bydd yr Aelodau'n gwybod bod cymal 2 y Bil yn ymwneud â chytundebau masnach rhyngwladol, fel yr amlinellodd y Cwnsler Cyffredinol. Mae'r rhain yn gytundebau a allai gwmpasu amrywiaeth eang o feysydd polisi sy'n dod o fewn cydsyniad deddfwriaethol y Senedd, gan gynnwys amaethyddiaeth a physgodfeydd. Mae cymal 2(6)(a) y Bil yn caniatáu i Weinidogion y DU wneud rheoliadau sy'n diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Gwnaethom ni fynegi braw nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno unrhyw sylwadau i Lywodraeth y DU ynghylch y pŵer hwn. Felly, gwnaethom ni argymell yn ein hadroddiad cyntaf y dylai'r Gweinidog ofyn am welliant i'r Bil i'r perwyl na all Gweinidogion y DU ei ddefnyddio i wneud rheoliadau sy'n diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Yn ein hail adroddiad, gwnaethom ni ddweud nad oeddem ni'n glir pam na chododd Llywodraeth Cymru y mater hwn yn uniongyrchol gyda Gweinidogion y DU, ac fe wnaethom ofyn i Lywodraeth y DU gyflwyno'r gwelliant angenrheidiol. Gwnaethom ni argymell ein bod ni'n cael esboniad am hyn cyn y ddadl heddiw, ac yr oeddem ni'n siomedig nad yw hyn wedi digwydd.
Rydym ni'n credu bod yr egwyddor gyfansoddiadol na ddylai cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd gael ei haddasu gan reoliadau wedi'u gwneud gan Weinidogion y DU yn un bwysig iawn y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei hamddiffyn. Byddai cymal 2(7) y Bil yn galluogi rheoliadau wedi'u gwneud gan Weinidogion y DU i ymestyn yr amser y caiff y DU a Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau cymal 2 am gyfnod pellach, hyd at bum mlynedd heb fod angen ymgynghori â Gweinidogion Cymru na cheisio cydsyniad y Senedd. Gwnaethom ni argymell hefyd y dylai'r Bil gael ei ddiwygio fel y byddai'n rhaid cael cydsyniad y Senedd cyn bod gallu Gweinidogion Cymru i arfer pwerau gweithredol yng Nghymru yn cael ei ymestyn, a theimlodd y pwyllgor ei bod yn destun gofid bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ein hargymhelliad.
Yn lle hynny, mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu, fel yr amlinellodd y Cwnsler Cyffredinol yn ddiweddar, ar ymrwymiad llafar yn Nhŷ'r Cyffredin y bydd proses o ymgynghori â hi cyn i'w phwerau gweithredol gael eu hymestyn. Rwy'n croesawu'r consesiynau lle y cafwyd hwy, ond, fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol, ac mae'n bwynt yr ydym ni wedi'i wneud yn gyson iawn, mae'r safbwynt hwn yn anfoddhaol yn ein barn ni, yn ogystal â'r diffyg diweddariad amserol ar statws yr ymrwymiad llafar hwn yn Nhŷ'r Cyffredin. Rwy'n credu mai'r pwynt yr ydym ni'n ei wneud ynghylch yr ymrwymiadau llafar yn Nhŷ'r Cyffredin, wrth gwrs, yw ein bod yn deall y confensiwn a'i ddefnydd o bryd i'w gilydd; effaith gyffredinol, gronnol y rheini ar y ddeddfwriaeth hon ac ar ddeddfwriaeth arall yw'r hyn sy'n peri pryder sylweddol i ni.
Daw hynny â mi at rai sylwadau cyffredinol ynglŷn â chymalau 1 a 2 y Bil a dibyniaeth Llywodraeth Cymru ar ymrwymiadau llafar yn Nhŷ'r Cyffredin wedi'u gwneud gan Lywodraeth y DU ynghylch sut y bydd pwerau'n cael eu harfer gan Weinidogion y DU. Nid ydym ni'n fodlon â dull Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â diffygion cymalau 1 a 2 drwy geisio'r ymrwymiadau anneddfwriaethol hyn gan Lywodraeth y DU. Yn ein barn ni, credwn ni ei fod yn ddull risg uchel ac yn un sy'n ddiffygiol yn gynyddol ac yn y pen draw hefyd. Bydd gan y Bil, ar ôl ei ddeddfu, oblygiadau sylweddol a allai fod yn hirdymor i sectorau allweddol yng Nghymru, gan gynnwys amaethyddiaeth, pysgodfeydd, iechyd a gweithgynhyrchu. Nawr, rydym ni'n cydnabod bod negodi cytundebau masnach ledled y DU yn parhau i fod yn bŵer a gadwyd yn ôl i Lywodraeth y DU, fodd bynnag, Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am weithredu'r cytundebau masnach hynny mewn meysydd datganoledig yng Nghymru, ac nid ydym ni'n credu bod cytundebau rhynglywodraethol anghyfrwymol yn ffordd effeithiol o ddiogelu buddiannau Cymru.
O ran perthynas yr UE-DU yn y dyfodol, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol yn ei ddatganiad ysgrifenedig ar 18 Mehefin 2020 fod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod
'yn rhwystredig iawn yn sgil absenoldeb unrhyw ymgysylltu ystyrlon.'
Os oes gan Lywodraeth Cymru bryderon o'r fath ynghylch ansawdd yr ymgysylltu â Llywodraeth y DU a'i bod yn credu bod camau diweddar Llywodraeth y DU wedi methu â pharchu sefyllfa'r Llywodraethau datganoledig, yna rydym ni'n ei chael yn anodd deall pam ei bod yn fodlon parhau i ymrwymo i gytundebau rhynglywodraethol anghyfrwymol gyda'r un Llywodraeth—
A gaf i ofyn i chi ddirwyn i ben, os gwelwch chi'n dda?
Rwyf i'n dirwyn i ben nawr. Bydd yr Aelodau'n gyfarwydd â'r pryderon hyn sydd gennym ni. Felly, wrth gloi, os gaf i ddweud pa mor siomedig ydoedd clywed un o Weinidogion Llywodraeth Cymru yn dweud, wrth wrthod un o'n hargymhellion, ei bod yn annhebygol iawn y byddai Llywodraeth y DU yn ystyried y rhain o ddifrif. Nid ydym ni'n credu bod hwn yn ddull priodol.
Rwy'n gweld bod Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn ôl gyda ni, felly fe wnaf i alw ar David Rees.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n ymddiheuro, rhoddodd fy Wi-Fi y gorau iddi ar yr adeg bwysig, fel y digwyddodd hi. Felly, fe wnaf i gadw fy sylwadau mor fyr â phosibl. Ar un ystyr, mae Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi adlewyrchu llawer o'r safbwyntiau sydd gennym ni, a bydd fy sylwadau byr yn canolbwyntio ar y prism y mae'n ein gorfodi ni i ystyried cydsyniad deddfwriaethol drwyddo.
Cyn i mi symud ymlaen, rwy'n deall y sefyllfa y mae'r Gweinidog wedi'i gael ei hun ynddi gyda'r memoradmwm cydsyniad deddfwriaethol a gafodd ei osod yn wreiddiol yn ôl ym mis Ebrill, un atodol ym mis Tachwedd a'r ail un atodol dim ond ddoe, ac roedd hynny'n seiliedig ar y ffaith mai dim ond ddydd Mercher diwethaf y cafodd gwelliannau eu gwneud. Mae'n tynnu sylw at y ffaith mai dim ond drwy gyfrwng y cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol hwnnw a gafodd ei osod ddoe y cafodd ein sylw ei dynnu at ddarpariaethau sylweddol ar gyfer y Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth, ac felly mae'n bwysig i ni gael cyfleoedd i graffu'n iawn ar y Bil.
Rwy'n credu bod y Bil hwn wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw'r broses cydsyniad deddfwriaethol yn caniatáu i ni'r math o ryngweithio â deddfwriaeth yr ydym ni'n ei chael o dan y broses graffu, ac rwy'n credu, mae hwn, yn fwy nag mewn unrhyw Fil arall, wedi'i hamlygu, oherwydd mae hyn wedi bod ar waith cyhyd, ond dyma ni, yn dal i'w drafod ar ddiwrnod pan gafodd y gwelliannau diweddaraf eu gwneud ddydd Mercher diwethaf ac nid ydym ni hyd yn oed yn gwybod a fyddan nhw'n cael eu derbyn yn Nhŷ'r Cyffredin eto, oherwydd nad yw'r cam hwnnw wedi'i orffen.
Ond mae ystyried y Bil a oedd gennym ni yn amlwg yn tynnu sylw at y sefyllfa anodd iawn sydd gennym ni a'r weithred o gydbwyso sy'n ofynnol arnom ni pan y byddem ni'n ystyried y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, oherwydd ar y naill law mae yna fater y gallem ni fod â phryderon yn ei gylch, fel yn ein hadroddiad cyntaf, a dynnodd sylw at fater nad yw'r Bil, mewn gwirionedd, wedi mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau hynny; ond, ar y llaw arall, rydym ni'n cydnabod yr angen am ddeddfwriaeth o'r math hwn ar gyfer rhywfaint o barhad i fusnesau, gweithwyr a defnyddwyr gan ein bod bellach wedi gadael y cyfnod pontio. Felly, mae'n erfyn di-awch sy'n rhoi dewis du a gwyn i ni: derbyn y cyfan neu wrthod y cyfan, ac rwy'n credu bod hynny'n tynnu sylw at y pryderon ynghylch cynigion cydsyniad deddfwriaethol, ar un ystyr.
Nawr, heb ailymweld â'n pryderon yn fanwl, rwy'n atgoffa'r Aelodau—a thynnodd Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad sylw at hyn—o'r ddibyniaeth ar ymrwymiadau ar lafar yn Nhŷ'r Cyffredin, yn hytrach na diwygio'r Bil mewn gwirionedd, fel y gwnaethom ni alw amdano mewn gwirionedd, i sicrhau na fydd y pwerau y mae'r Bil yn eu rhoi yn cael eu defnyddio yn y ffyrdd yr oeddem ni wedi'u rhagweld. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Rydym ni'n dibynnu'n ormodol ar ymrwymiadau o'r fath wedi’u gwneud gan Weinidogion San Steffan heb weld y newidiadau hynny yn y Bil ei hun, y gellid bod wedi'u cyflawni. Nawr, dyna beth mae'r confensiwn cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn ei roi i ni, yn anffodus. Nid yw'n mesur swyddogaethau parhaus fel y dylai, mae'n cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru a'r Senedd i ddylanwadu ar bolisïau'r DU fel y cyfryw a'r ddeddfwriaeth sy'n effeithio arnom ni yn y gweinyddiaethau datganoledig. Ac rwy'n credu, efallai y gwnaf ymestyn ychydig, ein bod yn ochelgar iawn oherwydd y modd y gwnaeth Llywodraeth y DU ystyried cynnig cydsyniad deddfwriaethol diwethaf y Senedd, y gwnaethom ni ei wrthwynebu, ac a gafodd ei wrthod yn llwyr gan Lywodraeth y DU a'r rhan fwyaf o Aelodau yn San Steffan a bleidleisiodd i gefnogi'r Bil yr oeddem ni wedi dweud 'na' iddo mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod hyn yn tynnu sylw at y mater ynglŷn â'r weithdrefn cynnig cydsyniad deddfwriaethol.
Nawr, mae angen mesurau diogelu cyfansoddiadol newydd a chadarn arnom ni er mwyn llywodraethu'r DU gyfan yn dda, rhywbeth y gwn i fod Aelodau wedi'i glywed droeon yn y Siambr hon. Ond i fod yn glir, ar nodyn mwy cadarnhaol, gerbron y pwyllgor ddoe, tynnodd y Cwnsler Cyffredinol sylw at y ffaith bod dulliau gweithredu gwahanol wedi bod ar yr agenda ac yn yr arena fasnach, ac yn fy marn i, yn y cytundebau masnach rhyngwladol a fydd yn y dyfodol, mae angen dilyn y math hwnnw o ddull gweithredu yn llawer mwy, ac edrychwn ymlaen at weld concordat, ac fe wnaf dynnu sylw at y ffaith y dylai fod wedi'i lofnodi 12 mis yn ôl, ond rydym ni'n dal i aros iddo gael ei lofnodi. Felly, mae'n bwysig ac mae angen ei wneud, ond rydym ni'n cydnabod bod symudiad wedi bod i gyfeiriad gwahanol. Felly, mae anghysondeb hyd yn oed o fewn dull gweithredu Llywodraeth y DU ar hyn o bryd, ac mae angen i'r anghysondeb hwn ddod i ben.
Rydym ni'n gweld rôl i'r Senedd hefyd wrth graffu ar gytundebau rhyngwladol yn y dyfodol, ac mae'r gwelliannau sydd wedi'u gosod—y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u hamlygu heddiw—hefyd yn cynnwys, os meddyliwch chi amdano, y dylai rheoliadau a wnawn ar gyfer newidiadau i unrhyw safonau yr ydym ni eisiau'u gwneud gael eu hystyried hefyd, fel eu bod yn cael eu hystyried mewn unrhyw gytundeb rhyngwladol. Ac nid oes unrhyw fyfyrdod ar hynny, dim ond safonau'r DU, nid safonau Cymru na'r Alban. Felly, mae angen i ni sicrhau hynny. Rydym ni'n gweld rôl i'r Senedd, ond o ran ystyried y Bil hwn a'r cwestiynau am gydsyniad deddfwriaethol y mae'n ei ofyn, mae'n ein hatgoffa ni bod angen mwy nag ymrwymiadau llafar arnom ni gan Weinidogion Llywodraeth y DU, mae angen gwelliannau i Filiau arnom ni. A byddwn i'n gobeithio, yn y dyfodol, y byddem ni'n cael anfon neges gref iawn at Lywodraeth y DU mai dyna y mae ei eisiau. Diolch.
Rwy'n credu bod hon yn ddadl o safon uchel, ac a gaf i gymeradwyo cyfraniadau dau Gadeirydd rhagorol y pwyllgorau yr wyf i'n aelod ohonyn nhw, Mick Antoniw a David Rees? Maen nhw wedi gosod y materion yn daclus ger ein bron, oherwydd mae gan Fil Masnach y DU lawer o ddiffygion, yn bennaf ei fod yn gofyn llawer gan y Seneddau datganoledig ond eto'n methu â chydnabod ein hawl ddemocrataidd i gymeradwyo cytundebau masnach sydd wedi'u gwneud ar ein rhan ac y byddem ni'n llywodraethu eu gweithredu. Mae'n rhaid ceisio cymeradwyaeth Seneddau Datganoledig a'r hawl i roi feto arnyn nhw, ond ni fydd y Bil hwn yn rhoi'r hawl honno i ni. O ganlyniad, bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.
Mae argyfwng COVID-19 wedi profi bod angen i ni gymryd agwedd newydd at bolisi masnach ar gyfer ein gwlad. Mae'n rhaid i ni ystyried nid yn unig ein blaenoriaethau rhyngwladol a'n hymrwymiad dwfn i'n hamgylchedd ond hefyd fuddiannau ein cymunedau, ein busnesau a'n sefydliadau. Er mwyn cyflawni hyn, mae'n rhaid i bolisi masnach ddod yn nes at adref. Mae'n rhaid bod mwy o rôl i'n Senedd i'w gwneud yn bolisi masnach i ni, yn fwy cadarn a gydag ymrwymiadau cryfach i weithredu ar yr hinsawdd. Nid yw Bil Masnach y DU sydd dan sylw heddiw yn gwneud hynny. Mae San Steffan yn dal i lynu wrth ei pholisi sy'n addas i bawb, yr un sy'n gweddu i dde-ddwyrain Lloegr. Y dull gweithredu hwn sydd wedi creu'r anghydraddoldebau rhanbarthol mwyaf yn Ewrop, ac sydd wedi cynyddu'r rhaniadau rhwng cenhedloedd y Deyrnas Unedig.
Gyda gwerth allforion nwyddau o Gymru yn unig yn dod i gyfanswm o £17.7 biliwn ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2019, masnach ryngwladol yw anadl einioes ein heconomi, sy'n caniatáu i gwmnïau, sefydliadau a chyrff cyhoeddus o Gymru gael mynediad i farchnad fyd-eang sy'n denu buddsoddiad, incwm a swyddi. Ac eto, mae Llywodraeth y DU, er gwaethaf ei record echrydus o ran negodi â'r UE—yr allforiodd Cymru £10 biliwn o nwyddau a gwasanaethau iddo yn 2019—yn gwadu'r hawl i'n Senedd ni gymeradwyo cytundebau masnach sydd wedi eu gwneud yn ein henw ni. Ein swyddogaeth, mae'n ymddangos, yw dim ond ceisio rheoli canlyniadau'r cytundebau masnach hyn; mae'n rhaid i ni eu dioddef.
Nid yw'r Bil hwn yn mynd i'r afael â'r pryderon y gallai masnach effeithio'n negyddol ar yr hinsawdd a'r amgylchedd. Yn wir, gwrthododd Llywodraeth y DU greu safonau masnach sy'n ymrwymo yn gyfreithiol i ddiogelu cynhyrchu ac ansawdd mewn meysydd fel amaethyddiaeth, fel yr ydym ni wedi clywed. Dylem ni fod yn cymryd camau cryfach i sicrhau nad yw masnach yn dod ar draul y byd naturiol drwy gynnwys amodau cytundebau masnach sy'n ymwneud â diogelu ecosystemau a thargedau hinsawdd. Ynghyd â mwy o ganolbwyntio ar ddatblygu economi gylchol ddomestig i leihau'r galw am ddeunyddiau crai wedi'u mewnforio, gallai mesurau fel y rhain leihau ôl troed carbon masnach Cymru yn sylweddol. Mae'n rhaid i'n Senedd ni gael dweud ei dweud os ydym ni eisiau bod ag unrhyw obaith o drafod cytundebau masnach sy'n mynd i'r afael â'r bwlch cynyddol yn ein cymdeithas sy'n ymateb i fusnesau Cymru ac yn eu hannog ni i allforio a sicrhau y gall ein heconomi ddomestig wella o COVID-19. Mae unrhyw beth heblaw am ran gyfartal yn rhagor o dystiolaeth nad yw'r DU wedi dysgu dim gan raniadau'r blynyddoedd diwethaf a'i bod yn anwybyddu eu hachosion yn fwriadol.
Er hynny, mae agwedd Llywodraeth Cymru tuag at y Bil hwn, a sicrhau diddordeb Cymru, wedi bod yn frawychus o annigonol. Yn wir, gwrthododd y Gweinidog dros gysylltiadau rhyngwladol ar y pryd, fel yr ydym ni wedi clywed, a oedd gynt yn gyfrifol am y Bil hwn, lawer o'r argymhellion a gafodd eu cyflwyno gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn ei adroddiad cyntaf ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn a'r daith arteithiol y bu arno. Un o'r rhesymau a gafodd ei roi am hyn oedd bod y Gweinidog o'r farn bod Llywodraeth y DU mewn sefyllfa gryfach gyda'i mwyafrif o 80 sedd ers etholiad mis Rhagfyr. Yr oedd, felly—ac rwy'n dyfynnu'n uniongyrchol yma—yn
'eithriadol o annhebygol y byddai unrhyw sylwadau y byddem yn eu cyflwyno i Lywodraeth y DU ar y mater hwn yn cael eu hystyried o ddifrif.'
Felly, ni wnaethon ni drafferthu i'w gwneud. Dyna ni, mewn du a gwyn: Llafur Cymru yn codi'r faner wen cyn hyd yn oed gwneud unrhyw ymdrech i ymladd yn ôl yn erbyn San Steffan i sefyll dros fuddiannau Cymru. Pa hysbyseb well ar gyfer annibyniaeth i Gymru?
Nawr, mae'r Cwnsler Cyffredinol yn cyfaddef yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol—ac rwy'n dyfynnu eto—
'Gallai trefniadau masnachu yn y dyfodol effeithio’n sylweddol ar feysydd datganoledig'.
Os felly, pam mae Llywodraeth Cymru yn fodlon sicrhau ymrwymiadau, fel yr ydym ni wedi clywed gan Lywodraeth y DU, hynny yw, yng ngeiriau Llywodraeth Cymru ei hun, yn aneddfwriaethol ac yn anghyfrwymol? Mae'n amlwg bod confensiwn Sewel yn cael ei anwybyddu, nid yw cytundebau rhynglywodraethol ac addewidion ar lafar yn Nhŷ'r Cyffredin yn werth dim byd, fel y dywedodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a phwyllgorau materion allanol, ac rydym ni wedi clywed yn y cyflwyniadau huawdl gan y ddau Gadeirydd y prynhawn yma. Am faint yn hwy y bydd Llafur Cymru yn parhau i roi eu ffydd yn y Torïaid a San Steffan, y mae eu hanes o dorri addewidion yno i bawb ei weld? Bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Masnach. Diolch yn fawr.
Rwy'n croesawu'r cynnig hwn heddiw ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y Bil Masnach yn gam deddfwriaethol arall tuag at ymwreiddio Brexit, sef y newid cyfansoddiadol mwyaf, wedi'r cyfan, ar unrhyw bapur pleidleisio yng Nghymru ers y bleidlais dros ddatganoli. Rwy'n sylwi mai dyma'r ail dro i Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach ddod gerbron y Siambr hon, gan adlewyrchu, rwy'n credu, sefyllfa sy'n esblygu'n gyflym yn Senedd y DU ac sy'n adlewyrchu'r broses negodi masnach gyda'r UE. Diolch i'r pwyllgorau am eu hystyriaethau manwl o'r Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol, ac rwy'n nodi rhywfaint o anesmwythyd yn yr adroddiad ynglŷn â defnyddio cytundebau rhynglywodraethol ac ymrwymiadau ar lawr y Senedd, ac rwy'n rhannu y pryder hwnnw, nid oherwydd bod unrhyw weledigaethau o Gymru'n cael eu hanfanteisio mewn unrhyw ffordd, ond oherwydd bod y dull yn anniben ac yn dibynnu ar ormod o newidynnau. Rwy'n deall y gallem ni glywed—wel, rydym ni fel arfer wedi clywed y term 'cipio pŵer' gan Blaid Cymru, ond ni wnaethon nhw ei ddefnyddio heddiw—ond hoffwn atgoffa'r rhai sydd â themtasiwn i ddefnyddio'r mathau hynny o eiriau, pan oeddem ni o dan awdurdodaeth yr UE, roedd y lle hwn a Llywodraeth Cymru yn ymddangos yn berffaith hapus i dderbyn unrhyw dermau yr ystyriwyd eu bod yn angenrheidiol gan yr UE heb unrhyw lwybr democrataidd ystyrlon i gwestiynu na dylanwadu. Ac yn awr, yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf, rydym yn gweld bargen yn cael ei tharo rhwng yr UE a Tsieina. A fyddem ni, neu ein hetholwyr, yn fodlon ar y datblygiad hwnnw? Heblaw am COVID, mae cofnod hawliau dynol y Blaid Gomiwnyddol Tsieineaidd yn gwbl resynus ac ni ddylid ei gwobrwyo mewn unrhyw ffordd.
Fel y gallech chi fod wedi rhagweld, byddaf yn pleidleisio o blaid y cynnig cysyniad deddfwriaethol hwn heddiw, ond cyn i mi gloi, hoffwn gofnodi fy niolch i'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol blaenorol am ei gwaith caled a'i phragmatiaeth wrth gyrraedd y pwynt hwn. Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr. A Mr Miles, diolch i chi am gefnogi hyn hefyd heddiw. Diolch yn fawr.
Diolch. Nid oes gennyf unrhyw bobl a oedd eisiau ymyrryd ar y ddadl, ac felly a gaf alw ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i ymateb i'r ddadl? Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl? Rwy'n credu bod llawer o'r cyfraniadau'n gyfraniadau pwysig i fyfyrdodau'r Siambr hon ar rai o'r heriau sy'n rhan annatod o'r broses gydsynio wrth geisio cysoni yr amserlen seneddol yn San Steffan ag anghenion ein Senedd ni yma yng Nghymru. Gobeithio y gallaf roi sylw i rai o'r pwyntiau allweddol hynny, o leiaf, yn y sylwadau cloi.
O ran pwynt Mick Antoniw am swyddogaeth y Llywodraeth wrth sefyll dros atebolrwydd democrataidd y Senedd, rwy'n cytuno'n llwyr ag ef mai dyna un o swyddogaethau Llywodraeth, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cydnabod na fu'r Llywodraeth hon erioed yn amharod i beidio ag argymell bod y Senedd yn cydsynio i ddeddfwriaeth nad ydym ni yn credu ei bod er budd y Senedd a phobl Cymru, ac yn wir, yn fwyaf diweddar gwrthod cymryd rhan yn yr hyn a oedd yn ddirmyg, yn nhermau seneddol, yn San Steffan, sef y cydsyniad o ran y cytundeb ar y berthynas yn y dyfodol. Rydym ni wastad wedi bod o'r farn y dylid ceisio caniatâd pan fo'n synhwyrol gwneud hynny, a bod amgylchiadau pan gaiff deddfwriaeth ei chyflwyno yn y Senedd yn ystyriaeth briodol yn y broses honno.
Gwnaeth Mick Antoniw y pwynt hefyd am ehangder rhai o'r pwerau yn y Bil, ac rwy'n derbyn yn llwyr fod yr iaith yn rhai o'r darpariaethau sy'n ymwneud â'r pwerau i Weinidogion yn San Steffan ac yn y Llywodraethau datganoledig yn ehangach nag y byddem ni yn dymuno ei gweld fel arfer. Byddwn i fy hunan yn fodlon ag iaith llawer tynnach. Wedi dweud hynny, rwy'n credu bod amgylchiadau penodol yr ansicrwydd ynghylch y sail yr ydym ni wedi bod yn gweithredu arni ym maes Brexit, yn y trafodaethau ac ar ddiwedd y cyfnod pontio, rwy'n credu, yn rhoi rhywfaint o gyfiawnhad dros ddull ychydig yn wahanol o ran hyn, ond nid yw hynny'n golygu cilio rhag yr ymrwymiad cyffredinol i sicrhau bod pwerau'n cael eu diffinio'n briodol mewn deddfwriaeth.
O ran y pwyntiau a gododd Mick Antoniw am gymal 2.6, mae'r pwynt a wnaeth yn ymwneud â cheisio gwelliannau i'r Bil er mwyn diogelu Deddf Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth gyfansoddiadol arall. Gwnaeth Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, geisio gwelliannau i'r Bil o ran hynny, er yn Nhŷ'r Arglwyddi yn hytrach nag yn Nhŷ'r Cyffredin, ar sail yr hyn sydd, yn fy marn i, yn farn synhwyrol mai dyna oedd y llwybr gwell at lwyddiant. Yn amlwg, ni lwyddodd y llwybr hwnnw chwaith, yn anffodus. Rwyf, mewn gwirionedd, wedi ysgrifennu at y pwyllgor gydag esboniad o hynny. Rwy'n credu i mi gymryd o sylwadau Mick Antoniw nad yw'r llythyr hwnnw wedi dod i law o bosibl, felly fe wnaf wirio i sicrhau bod hynny'n wir, ond yn sicr rhoddwyd esboniad i'r pwyllgor ynglŷn â'r amgylchiadau sy'n gysylltiedig â chymal 2.6.
Mae Mick Antoniw a David Rees wedi gwneud pwyntiau o bwys mawr, rwy'n credu, ynghylch swyddogaeth ymrwymiadau ar lawr y senedd a dulliau anneddfwriaethol, os hoffech, i roi eglurder a sicrwydd. Soniodd David Rees y caiff rheini eu ceisio pan fu'n bosibl cyflawni gwelliannau; mewn gwirionedd, yr hyn sy'n arferol yw mai dim ond pan fyddwn ni wedi methu, i bob pwrpas, i gael ymrwymiadau ar wyneb y Bil y cânt eu rhoi. Felly, mae cydnabyddiaeth lwyr, rwy'n dychmygu, ymhlith yr holl Lywodraethau datganoledig, eu bod nhw'n ateb amherffaith i'r broblem, a byddai'n well gennym, yn amlwg, weld gwelliannau ar wyneb y Bil. Ond roedd ei gyfraniad yn cydnabod, rwy'n credu, nad yw hynny bob amser yn bosibl.
Fel un pwynt olaf os caf i, Dirprwy Lywydd, ynglŷn â'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol a gyflwynwyd ddoe, yn amlwg, yr oedd hynny'n fuan iawn cyn y ddadl hon. Nid wyf i fy hun yn credu bod y gwelliannau y cyfeirir atynt yn y Bil yn bodloni'r trothwy y mae'r Rheol Sefydlog yn ei gyflwyno, ond gellid dadlau eu bod yn cyrraedd y trothwy is y mae Gweinidogion weithiau'n ei ystyried wrth gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Teimlais, ar y cyfan, o gofio bod y ddadl yn digwydd yng nghyswllt cwestiynau eraill am gydsyniad, ei bod er budd ystyriaeth lawn gan y Senedd i gyflwyno'r gwelliannau pellach hynny, er y gellid dadlau eu bod ychydig yn fwy dadleuol o ran a ydynt yn sbarduno'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Ond roeddwn i'n meddwl ei bod er budd y Senedd i gael y rheini o'i blaen heddiw wrth ystyried y cynnig hwn, a gobeithio y bydd y Senedd yn cymeradwyo'r cynnig o dan y telerau a osodwyd. Diolch yn fawr.
Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu? Ie, iawn. Felly, byddwn yn gohirio y bleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.