11. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 12 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:28, 12 Ionawr 2021

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig. Rwy'n falch o allu cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol a chynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol yn berthnasol i Fesur Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar fasnach.