1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 12 Ionawr 2021.
2. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau buddsoddiad mewn cynhyrchu batris ar gyfer cerbydau trydan yng Nghymru? OQ56105
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae cynlluniau i ddefnyddio cryfder ymchwil, datblygu a gweithgynhyrchu'r sector yng Nghymru eisoes wedi sicrhau dau safle ar frig rhestr fer y DU ar gyfer mwy o gynhyrchiant mewn ffatrïoedd o fatris cerbydau trydan, a phedwar gwahanol brosiect ymchwil a masnacheiddio, yn rhan o her batri Faraday gwerth £380 miliwn.
Diolch yn fawr iawn am yr wybodaeth yna—mae hynny'n galonogol iawn. Efallai fod hwn yn ymddangos yn gwestiwn braidd yn rhyfedd yng nghanol y pandemig hwn, ond rydym ni'n gwybod bod yn rhaid i ni barhau i ganolbwyntio ar adferiad gwyrdd, a bodloni ein targedau llygredd hinsawdd ac aer hefyd. Rydym ni'n gwybod y bydd angen i'r holl gerbydau newydd sy'n cael eu gwerthu yn y DU gael eu pweru gan dechnoleg adnewyddadwy erbyn 2030, ac felly mae cyfleusterau cynhyrchu cerbydau presennol sy'n defnyddio tanwydd ffosil yn ased sy'n lleihau, oni bai eu bod nhw'n newid i drydan neu hydrogen. Ac rwy'n falch iawn o glywed gan Hitachi eu bod nhw'n treialu'r defnydd o fatris ar drenau i redeg ar y prif reilffyrdd y mae Llywodraeth y DU wedi methu â'u trydaneiddio. Ac mae hynny'n amlwg yn cynnwys y brif reilffordd sy'n rhedeg i'r gorllewin o Gaerdydd Canolog, felly gallai hyn fod yn berthnasol iawn i osgoi'r mygdarth diesel ar drenau sy'n teithio tuag at y gorllewin yn y dyfodol. Ond mae trenau yn gynnyrch arbenigol o'u cymharu â cheir, ac roeddwn i'n meddwl tybed beth ellir ei wneud i weithio o ddifrif gyda gweithgynhyrchwyr cerbydau presennol y DU i weld bod gan Gymru gynnig unigryw o ran ein harbenigedd peirianneg a lled-ddargludyddion cyfansawdd i leoli gwaith cynhyrchu batris cerbydau trydan ar raddfa fawr.
Llywydd, diolchaf i Jenny Rathbone am y cwestiwn pwysig iawn yna. Mae yn llygad ei lle wrth dynnu sylw at y ffaith, er bod coronafeirws yn mynd â'r rhan fwyaf o'n sylw fel argyfwng iechyd cyhoeddus uniongyrchol, nad yw'r argyfwng newid hinsawdd wedi diflannu a bod angen iddo fod yn flaenllaw yn ein meddyliau o hyd. Bydd yr Aelod yn falch o wybod, yn y gronfa trawsnewid modurol, na chyfeiriais ati yn fy ateb gwreiddiol, bod Cymru wedi llwyddo i gael cyllid ar gyfer tri phrosiect yn rownd gyntaf y gronfa honno. Mae'r tri ohonyn nhw yn y gornel dde-ddwyreiniol honno o Gymru—yng Nghasnewydd ac yng Nghil-y-coed—lle mae gennym ni'r clwstwr hwnnw o arbenigedd mewn lled-ddargludyddion. Ac rwy'n credu bod hynny yn gydnabyddiaeth o'r ffaith fod gennym ni'r ffynhonnell honno o arbenigedd sydd wedi datblygu yma yng Nghymru ac a fydd o fantais i'r DU gyfan. Ac, yn wir, ceir gweithgynhyrchwyr yn y DU sydd eisoes yn cyfrannu at yr ymdrech y cyfeiriodd Jenny Rathbone ati—Hydro Aluminium, er enghraifft, cwmni sy'n paratoi cydrannau ar gyfer fflyd tacsis cwbl drydanol Llundain. A dim ond un enghraifft yw honno; mae cwmnïau eraill yng Nghymru eisoes yn cyflenwi cydrannau yn y maes pwysig iawn hwn.
Ac o ran trenau, roeddwn i'n ddiolchgar iawn o gael y cyfle i gyfarfod ychydig cyn y Nadolig gydag uwch is-lywydd Hitachi, a oedd yn ymweld â'r Deyrnas Unedig, ac i archwilio gydag ef y diddordeb sydd gan Hitachi yn y gwaith yr ydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru yn y sector rheilffyrdd, yn cynllunio ar gyfer y dyfodol, gan wneud yn siŵr ein bod ni'n chwarae ein rhan yn yr ymdrech fawr y bydd ei hangen, fel y dywedodd Jenny Rathbone, Llywydd, i sicrhau bod ein trafnidiaeth a'n cludiant cyhoeddus yn y dyfodol yn ymateb i'r her y mae'r newid yn yr hinsawdd yn ei gosod i bob un ohonom ni.
Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol, gobeithio, fod Britishvolt wedi llofnodi memorandwm o gyd-ddealltwriaeth gyda chi a'ch Llywodraeth mewn ymgais i adeiladu ffatri batris cerbydau trydan graddfa fawr gyntaf y DU yma yng Nghymru. Nawr, er mai safle Bro Morgannwg yw'r ffefryn cynnar ac i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ein hysbysu ym mis Hydref ei fod yn cael galwadau rheolaidd gyda Britishvolt, mae ein gwlad wedi colli'r ras i fod yn ganolfan fyd-eang i'r diwydiant cerbydau wedi'u trydaneiddio. Yn drist, bydd Britishvolt yn mynd â'i fuddsoddiad o £2.6 biliwn, 3,000 o swyddi medrus iawn a hyd at 5,000 yn fwy yn y gadwyn gyflenwi ehangach i Northumberland. Pam wnaethoch chi, fel y Prif Weinidog, ganiatáu i'r batri hwn fynd yn fflat o ran Britishvolt yng Nghymru? A pham na wnaethoch chi gynnig unrhyw gymhellion ariannol o gwbl i wefru i'r eithaf diwydiant a datblygiad mor bwysig i Gymru? Diolch.
Llywydd, mae gen i ofn bod yr Aelod wedi darllen ei chwestiwn ond nad oedd yn wybodus iawn amdano. Rydym ni'n dal i fod mewn trafodaethau gyda Britishvolt. Y symudiad i Blyth yw eu ffatri gyntaf. Fel y dywedais yn fy ateb i Jenny Rathbone, mae gan Gymru ddau safle—safle Bro Tathan a safle Baglan—yn y pump uchaf ar restr fer Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer cynhyrchiant gigaffatri o fatris trydan. Rydym ni'n parhau i drafod gyda Britishvolt. Mae ganddyn nhw uchelgeisiau y tu hwnt i Blyth, ac mae Cymru yn sicr ar eu rhestr ar gyfer cam nesaf eu datblygiad. Rwy'n awyddus iawn ein bod ni'n parhau i fynd ar drywydd y posibiliadau hynny ac yn sicr i beidio â bychanu'r ymdrechion a wnaeth y cwmni gyda Llywodraeth Cymru i ddod â swyddi a gweithgarwch i Gymru.