Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 12 Ionawr 2021.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae strategaeth frechu Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod 280,000 dos o frechlyn Pfizer a 47,000 o frechlyn Rhydychen-AstraZeneca bellach wedi dod i law yma yng Nghymru, ac eto rydym ni'n gwybod mai dim ond tua 91,000 o ddosau sydd wedi eu rhoi. Ac rydym ni'n gwybod, ddoe, bod 2.7 y cant o boblogaeth Cymru wedi cael eu brechu, o'i gymharu â 3 y cant yn yr Alban a 3.5 y cant yn Lloegr. A allwch chi egluro i bobl Cymru pam mae cyflwyno'r brechlyn wedi cwympo y tu ôl i wledydd eraill y DU hyd yma, ac a allwch chi ddweud wrthym ni pam yr ydych chi'n credu nad sbrint yw hon, o gofio mai ras yw hon i guro'r feirws mewn gwirionedd?