1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 12 Ionawr 2021.
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â hiliaeth mewn chwaraeon? OQ56119
Nid oes unrhyw le i hiliaeth ar unrhyw ffurf yng Nghymru—uniongyrchol nac anuniongyrchol. Mae'n rhaid ennill llawer iawn o dir ar bob lefel o hyd cyn bod chwaraeon yng Nghymru yn adlewyrchu ac yn dathlu amrywiaeth ein gwlad yn llawn.
Diolch, Prif Weinidog. Dros gyfnod y Nadolig, cafodd asgellwr Rygbi'r Dreigiau Ashton Hewitt ei gam-drin yn hiliol ar gyfryngau cymdeithasol. Yn anffodus, nid yw hwn yn ddigwyddiad unigryw, a dim ond un ydoedd mewn cyfres faith o negeseuon y mae Ashton wedi eu cael oherwydd ei fod yn chwaraewr du. Nid yw wedi ei gyfyngu i un person neu gamp yn unig. Y llynedd, defnyddiodd Ashton ei lwyfan i dynnu sylw at gam-drin hiliol a chodi ymwybyddiaeth o hiliaeth. Mae Ashton wedi canmol y gefnogaeth y mae wedi ei chael gan ei glwb—y Dreigiau—a Chymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru, ond mae wedi dweud:
Roedd yn bwysig i mi dynnu sylw at y ffaith ei fod yn digwydd yn fy nghamp i. Nid yw'n berffaith ac mae'n bwysig bod pobl yn cydnabod ac yn gweithredu.
Daw llawer o'r cam-drin ar gyfryngau cymdeithasol o gyfrifon dienw. Er bod Ashton wedi dweud yr hoffai gael sgwrs adeiladol gyda'r sawl a'i camdriniodd yn hiliol, mae anhysbysrwydd cyfryngau cymdeithasol yn broblem ag iddi atebion amlwg. Mae llawer o apiau a hysbysebion yn gofyn am brawf adnabod i greu cyfrif; gellid cynnal archwiliadau tebyg yn hawdd ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i ganmol Ashton Hewitt am dynnu sylw at hiliaeth mewn chwaraeon, ac edrych ar sut y gallwn ni ei gefnogi ef ac eraill i roi terfyn ar bob math o hiliaeth? Ac a wnaiff y Prif Weinidog ddefnyddio ei lais i annog y cewri cyfryngau cymdeithasol i gryfhau eu rheoliadau ynghylch cyfrifon dienw, fel nad oes unman i bobl guddio?
Diolchaf i Jayne Bryant am hynna, ac wrth gwrs rwy'n awyddus iawn i ymuno â hi i ganmol y ffordd yr ymatebodd Mr Hewitt i'r cam-drin echrydus a ddioddefodd. Roeddwn i'n meddwl bod ei ymateb yn rhyfeddol, a dweud y gwir. Roedd yn urddasol ac fe'i cynlluniwyd i geisio cywiro'r camweddau a gyflawnwyd. Rwy'n ei gymeradwyo'n llwyr am hynny.
Mae'r pwynt cyffredinol y mae Jayne Bryant yn ei wneud yn un pwysig iawn. Yn ôl a ddeallaf, mae cyfrif y sawl a gamdriniodd Mr Hewitt wedi ei ddileu erbyn hyn. Ond, rydym ni wedi gweld, nid yn unig yn yr achos hwn—siawns ein bod ni wedi ei weld ar draws yr Iwerydd yn yr Unol Daleithiau yn ddiweddar—y niwed sy'n cael ei wneud pan na fydd pobl sy'n camddefnyddio platfformau cyfryngau cymdeithasol yn cael eu herio. Ac rwy'n meddwl, efallai, mewn rhai ffyrdd, ein bod i gyd braidd yn dueddol o ddiystyru'r pethau hynny fel pethau sy'n perthyn rywsut i elfen ymylol, ac na ddylem ni gynhyrfu yn ormodol am yr holl beth. Ond rwy'n credu bod y digwyddiadau a welsom ni yn yr Unol Daleithiau yn dangos pa mor llechwraidd y mae'r meddiannaeth adain dde eithafol honno o gyfryngau cymdeithasol wedi dod, ac mae yma yng Nghymru hefyd. Mae'n lledaenu'r celwydd am coronafeirws, mae'n annog pobl i gredu na ddylid byth ymddiried mewn pobl sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus i'w cynorthwyo ac y dylid eu drwgdybio bob amser.
Rwy'n credu bod mwy—yn sicr mwy—y mae angen i'r platfformau eu hunain ei wneud i herio twyllwybodaeth, i herio pobl sy'n ceisio mynd ar drywydd eu safbwyntiau niweidiol mewn ffyrdd y mae'r rhyngrwyd, sydd mewn ffyrdd eraill yn gymaint o fendith a mantais—y ffordd y mae wedi creu lle i bobl sy'n dymuno ei ddefnyddio at ddibenion cwbl anghyfreithlon a dinistriol. Ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am yr angen i'w hannog i wneud mwy i wneud yn siŵr nad yw hynny yn digwydd.
Blwyddyn newydd dda, Prif Weinidog. Mae protest Black Lives Matter a digwyddiadau fel yr un y mae Jayne Bryant newydd ei godi wedi annog llywodraethau ar bob lefel bellach i edrych ar yr anghydraddoldebau sy'n wynebu pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ym mhob agwedd ar fywyd, a bu gan chwaraeon broffil arbennig o uchel oherwydd mabolgampwyr fel Syr Lewis Hamilton a holl dimau pêl-droed uwch gynghrair Lloegr sy'n dal i fynd i lawr ar un ben-glin. Mae ymgyrchwyr wedi gwneud y pwynt, serch hynny, na fydd dim yn newid oni bai bod mwy o gynrychiolaeth o bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn haenau uwch sefydliadau chwaraeon. Ym myd pêl-droed, er enghraifft, mae chwarter chwaraewyr pêl-droed Uwch Gynghrair Lloegr yn ddu, ond dim ond chwe rheolwr o gefndir pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sydd yn y gêm broffesiynol, a dim ond un cyfarwyddwr pêl-droed. Yn 2003, yn y National Football League yn America, cyflwynwyd rheol Rooney ganddyn nhw i fynd i'r afael â thangynrychiolaeth hyfforddwyr Americanaidd-Affricanaidd mewn pêl-droed Americanaidd, lle mae o leiaf un ymgeisydd du ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad pan ddaw swydd rheolwr ar gael. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda chynghorau chwaraeon, sefydliadau chwaraeon, clybiau a chyrff llywodraethu cenedlaethol i adolygu cynrychiolaeth a llwybrau ar gyfer pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru?
Diolchaf i Laura Anne Jones am ei chyfarchiad blwyddyn newydd, ond hefyd am daflu goleuni ar y maes pwysig iawn hwn ac am rai o'r syniadau y mae hi wedi eu harchwilio. Yn sicr, nid ydym yn rhydd o'r anhawster hwn yma yng Nghymru. Nid oes unrhyw bobl dduon ar unrhyw un o'r 17 bwrdd chwaraeon yr ymchwiliwyd iddyn nhw yn ddiweddar, ac mae hynny'n cynnwys Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Nid oes gan naw o 17 o sefydliadau chwaraeon yng Nghymru unrhyw aelodau staff o blith pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ac nid oes gan 10 o 17 o sefydliadau chwaraeon yng Nghymru unrhyw aelodau bwrdd pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Nid yw'r rhain yn ffigurau derbyniol, Llywydd, ddim o gwbl, ac mae rheol Rooney yn un o'r ffyrdd y gellid mynd i'r afael â rhywfaint o hynny.
Hoffwn ddweud bod Chwaraeon Cymru wrthi'n ceisio yn ddiwyd iawn mynd i'r afael â hyn ei hun. Mae ymgyrchoedd Tell Your Story ac Our Stories Matter ill dau wedi eu cynllunio i sicrhau bod profiad pobl dduon mewn chwaraeon yng Nghymru yn cael ei ddeall a'i gydnabod yn iawn, ond mae angen i hynny fod yn wir ar frig y byd chwaraeon hefyd. Ar lefel bwrdd, mae angen i ni weld profiad mabolgampwyr duon gwrywaidd a benywaidd yn cael ei gynrychioli yn briodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hynny, bydd ein cynllun gweithredu ar gydraddoldeb hiliol yn ein helpu gyda hynny, a cheir ffyrdd eraill, Llywydd, hefyd.
Nododd yr archwiliad o goffáu yng Nghymru, a sefydlwyd gennym ni yn gynharach yn yr hydref, nifer o chwaraewyr du yn rygbi'r gynghrair a orfodwyd i adael Cymru oherwydd gwahaniaethu yng nghod yr undeb. Mae'n rhyfeddol i mi bod gan Billy Boston, sydd, rwy'n credu, yn dal yn fyw, gerflun iddo yn Wigan a cherflun iddo yn Wembley, ond dim cerflun iddo o gwbl yma yng Nghymru, a chymeradwyaf y camau y mae cyngor Caerdydd yn eu cymryd i geisio unioni hynny. Felly, diolchaf i'r Aelod am godi'r pwyntiau y gwnaeth hi, oherwydd maen nhw'n bwysig iawn ac mae agenda wirioneddol ddifrifol y mae chwaraeon yng Nghymru yn mynd i'r afael â hi ac mae angen iddyn nhw wneud cynnydd priodol i'w datrys.