Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 12 Ionawr 2021.
Llywydd, diolchaf i Angela Burns am hynna, ac, wrth gwrs, byddaf yn edrych yn iawn ar y cwestiynau y mae hi wedi eu codi, ac os oes mwy i'w ychwanegu, byddaf yn ysgrifennu ati i roi gwybod iddi.
Rwy'n credu ei bod yn bur debyg ei bod wedi ateb ei chwestiwn cyntaf ei hun. Mae pob brechlyn newydd yn dod â risgiau newydd gyda nhw. A hyd yn oed os ydych chi'n frechwr profiadol iawn mewn cyd-destunau eraill, mae'n gwbl briodol eich bod chi'n cael eich hyfforddi i wneud yn siŵr eich bod chi'n ymwybodol o'r risgiau a allai fod yn bodoli a'ch bod chi'n gymwys i ymateb iddyn nhw. Rwyf i eisiau i hynny gael ei wneud yn y modd hawddaf bosibl a'r modd cyflymaf posibl, ac yn sicr nid wyf i eisiau cael pobl sydd eisoes yn gymwys yn gorfod mynd dros bethau y maen nhw eisoes yn eu gwybod, ond gyda brechlyn newydd, a feirws newydd—yr adeg hon y llynedd, prin yr oeddem ni wedi clywed am y feirws, heb sôn am y brechlyn ar ei gyfer—mae gwneud yn siŵr bod y bobl yr ydym ni'n gofyn iddyn nhw wneud y swyddi pwysig iawn hyn yn gymwys fel y mae angen iddyn nhw fod, rwy'n credu, yn bwysig, a bydd ychydig o fuddsoddiad yn hynny yn y cyfnod cynnar yn talu ar ei ganfed dros y cyfnod sydd o'n blaenau.
O ran y broses archebu, rwy'n credu ei bod hi yno dim ond i sicrhau tegwch. Dim ond 22,000 dos o frechlyn AstraZeneca oedd gennym ni yr wythnos diwethaf; dim ond 25,000 dos ohono sydd gennym ni yr wythnos hon. Pe byddem ni'n caniatáu yn syml i feddygon teulu fod mewn cystadleuaeth â'i gilydd i'w archebu, efallai na fyddai unrhyw frechlyn yn Sir Benfro o gwbl gan y byddai wedi ei fachu gan feddygon teulu a fyddai wedi llwyddo i gael ar y lein yn gyflymach a'i gael yn rhywle arall. Felly, mae ein proses archebu wedi ei chynllunio i wneud yn siŵr bod brechlyn ar gael ym mhob rhan o Gymru, ac wrth i ni eu cyflwyno, i bob meddygfa. Rydym ni'n gobeithio y bydd gan 34 o feddygfeydd yn Hywel Dda, er enghraifft, pob meddygfa yn etholaeth yr Aelod ei hun, frechlyn i'w ddefnyddio erbyn wythnos 24 Ionawr. A'r hyn sy'n sail i'r system sydd gennym ni yw bod â phroses archebu sy'n caniatáu i ni wneud yn siŵr bod y cyflenwad cyfyngedig sydd gennym ni ar gael yn deg ym mhob rhan o Gymru. Os oes mwy i'r mater na hynny, byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod i'n ysgrifennu at yr Aelod gydag esboniad pellach.