Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 12 Ionawr 2021.
Llywydd, er gwaethaf ein galwadau niferus, mae Llywodraeth y DU yn parhau i wneud cyhoeddiadau am gyllid ar yr unfed awr ar ddeg heb unrhyw ymgysylltiad â'r Llywodraethau datganoledig a heb unrhyw eglurder ar unwaith ynghylch y goblygiadau i Gymru. Dim ond yr enghraifft ddiweddaraf yw'r dryswch ynghylch cyhoeddiad yr wythnos diwethaf ar gymorth busnes.