1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 12 Ionawr 2021.
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau diweddar gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllid ychwanegol i Gymru? OQ56110
Llywydd, er gwaethaf ein galwadau niferus, mae Llywodraeth y DU yn parhau i wneud cyhoeddiadau am gyllid ar yr unfed awr ar ddeg heb unrhyw ymgysylltiad â'r Llywodraethau datganoledig a heb unrhyw eglurder ar unwaith ynghylch y goblygiadau i Gymru. Dim ond yr enghraifft ddiweddaraf yw'r dryswch ynghylch cyhoeddiad yr wythnos diwethaf ar gymorth busnes.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, roeddwn i'n falch iawn o ddarllen ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig bod Llywodraeth y DU yn darparu £220 miliwn—a dyfynnaf—o 'gyllid ychwanegol' i gefnogi swyddi a busnesau yng Nghymru. Byddai hynny yn sicr i'w groesawu yn fawr ac wir ei angen ar hyn o bryd, yn enwedig mewn ardaloedd fel fy etholaeth i, sef Merthyr Tudful a Rhymni. Disgrifiwyd y cyhoeddiad hefyd gan lefarydd economi y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, fel—ac eto, dyfynnaf—'£227 miliwn yn ychwanegol'. Yna, â chryn gywilydd, cywirodd Trysorlys y DU ei hysbysiad ei hun i'r wasg ar ôl honni yn anghywir bod cyhoeddiad y Canghellor yn golygu arian ychwanegol i Gymru. Rwy'n cofio, fis Gorffennaf diwethaf, i'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid rybuddio bod yr holl ddiffyg tryloywder yng nghyllidebau'r Trysorlys yn cyfrannu at y dryswch ynglŷn â'r cymorth ariannol sy'n cael ei roi i Lywodraethau datganoledig, gan ei gwneud yn fwy anodd craffu a dweud bod hyn yn niweidiol i ymddiriedaeth y cyhoedd. Wel, Prif Weinidog, agorais fy nghyfrifiannell, ac mae honno'n dweud wrthyf i fod £227 miliwn wedi'i luosi â dim yn gwneud dim. Felly, a yw fy nghyfrifiannell i yn anghywir, neu a ydym ni, mewn gwirionedd, wedi cael un o'r datganiadau mwyaf camarweiniol ac anonest a wnaed erioed gan Dorïaid Cymru? Ac onid yw hyn yn profi y dylai Llywodraeth y DU ddilyn dull mwy tryloyw Llywodraeth Cymru?
Wel, Llywydd, mae arnaf ofn bod cyfrifiannell yr Aelod yn gywir. Ac mae hi'n iawn wrth gwrs—amlinellodd yr hanes. Gwnaeth y Trysorlys gyhoeddiad—fe'i clywais fy hun ar y radio—fod £227 miliwn ychwanegol yn dod i Gymru. Roedd hynny, roeddwn yn credu, yn newyddion da iawn—byddem wedi gallu ei ddefnyddio i ychwanegu at y pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Ac yna daeth i'r amlwg ychydig oriau'n ddiweddarach nad arian ychwanegol oedd hwn o gwbl—mae'n debyg ein bod eisoes wedi'i gael. Wel, nid dyna'r ffordd i weithredu ar draws gwledydd y DU.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gosod cyllideb atodol arall, Llywydd, y byddwn yn ei chyflwyno gerbron y Senedd yn gynnar ym mis Chwefror. Dyma fydd y trydydd tro i Aelodau'r Senedd gael cyfle i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r arian sydd ar gael i ni yn y flwyddyn ariannol eithriadol hon. Bydd y Pwyllgor Cyllid yn gallu ei hystyried, gofynnir cwestiynau ar lawr y Senedd, a bydd yr holl ffigurau ar gael, i'r holl Aelodau eu gweld. Nid yw Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi hyd yn oed un amcangyfrif atodol, yn y flwyddyn ariannol hon i gyd. Ac rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt da iawn am bwysigrwydd bod yn glir gyda phobl, o ble mae'r arian yn dod, yr hyn y mae'n cael ei ddefnyddio ar ei gyfer. Ceisiwn wneud hynny yma yn Llywodraeth Cymru, a byddai wedi bod o gymorth i ni, yn enwedig ynghylch y mater y mae Dawn Bowden wedi cyfeirio ato, pe bai mwy o gywirdeb a thryloywder wedi bod yn y ffordd y disgrifiodd Llywodraeth y DU yr arian, na ddaeth o gwbl i Gymru yn y pen draw.
Diolch i'r Prif Weinidog.