Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 12 Ionawr 2021.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. A yw ef yn credu bod y caniatâd cynllunio dros dro sydd wedi'i roi, sy'n dod i ben ym mis Mawrth eleni, mewn gwirionedd yn gyfreithlon ac y bydd yn parhau i fod, a pha gamau eraill y gall ef a Llywodraeth Cymru eu cymryd drwy'r broses gyfreithiol honno mewn ymgais i sicrhau bod defnydd o'r safle hwn, sy'n amlwg yn anaddas i'r bobl hyn, yn dod i ben? Mae'n amlwg bod argyfwng COVID wedi gwneud y safle penodol hwnnw hyd yn oed yn llai addas nag yr oedd o'r blaen ar gyfer meddiannaeth gan yr unigolion bregus hyn. Felly, a oes rhagor y gall y Cwnsler Cyffredinol ei wneud, gan edrych ar gyfreithlondeb y broses gynllunio, i geisio dylanwadu ar ddychwelyd yr eiddo hwn i'r Weinyddiaeth Amddiffyn cyn gynted â phosibl?