Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 12 Ionawr 2021.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw, ac wrth gwrs mae hi yn llygad ei lle wrth ddweud bod y llety hwn yn amhriodol at y diben sydd wedi'i bennu iddo. Dyna safbwynt Llywodraeth Cymru ac rydym yn amlwg wedi gweithredu ar y sail honno ac wedi cyflwyno sylwadau yn y ffordd honno i Lywodraeth y DU. Fel y soniais wrthi, o ran y seilwaith cyfreithiol sylfaenol a'r fframwaith ynghylch y penderfyniad sydd wedi'i wneud gan Lywodraeth y DU, nid ydym ni wedi cael cadarnhad ganddyn nhw o'r sail ddeddfwriaethol y maen nhw eu hunain yn seilio eu penderfyniad i ddefnyddio Penalun arno, felly nid yw'n glir a oes cydymffurfio priodol wedi bod â'r pwerau y maen nhw wedi bod yn eu defnyddio. Gallai ystod o bwerau ddod i rym—y Ddeddf Mewnfudo a Lloches yn benodol, ond hefyd bydd gofynion yn y Ddeddf Cydraddoldeb, dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, a'r confensiwn Ewropeaidd a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd, ac mae'n ymddangos yn ddigon posibl i ni nad ydyn nhw wedi'u cymryd. Bydd rhai o'r rheini wedi ymwneud â gweithio gyda—[Anghlywadwy.] —gan gynnwys Llywodraeth Cymru, ac yn sicr nid oes cydymffurfio wedi bod â hynny. Felly, mae amrywiaeth o faterion cyfreithiol posibl a allai godi. Ond, fel yr wyf i'n ei ddweud, ar hyn o bryd nid oes gennym eglurder o hyd oddi wrth Lywodraeth y DU ynglŷn â'r sail gyfreithiol y mae wedi bod yn gweithredu arni.