Ymgyrch Menywod yn erbyn Anghyfiawnder Pensiwn y Wladwriaeth

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 12 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:48, 12 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb, a gwn y bydd aelodau grŵp Llanelli Menywod yn erbyn Anghyfiawnder Pensiwn y Wladwriaeth a grwpiau WASPI eraill ar draws y canolbarth a'r gorllewin a ledled Cymru yn ddiolchgar am safbwynt parhaus Llywodraeth Cymru ar hyn. Tybed a oes gan y Cwnsler Cyffredinol unrhyw wybodaeth bellach am amseriad yr ymchwiliad sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd gan ombwdsmon y Senedd a'r Gwasanaeth Iechyd i gamweinyddu posib. Rydym ni i gyd yn amlwg yn ymwybodol bod hynny wedi'i ohirio oherwydd yr achosion cyfreithiol, ond, nawr bod yr achosion cyfreithiol hynny wedi eu datrys, tybed a yw'r Cwnsler Cyffredinol a Llywodraeth Cymru yn teimlo y gallent wneud rhai ymholiadau gyda'r ombwdsmon i weld erbyn pryd y maen nhw'n disgwyl adrodd yn ôl ar y camweinyddu posib yn yr achos hwn.