Ymgyrch Menywod yn erbyn Anghyfiawnder Pensiwn y Wladwriaeth

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 12 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:49, 12 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna. Byddaf yn sicrhau bod y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi clywed hynny, oherwydd mae'r mater sylweddol yn amlwg o fewn ei phortffolio. Ond o ran y trafodion i'r graddau y maen nhw'n ymwneud â'r ombwdsmyn ei hun, fy nealltwriaeth i yw bod yr ymchwiliad yn ymwneud â sampl o chwe chwyn am gyfathrebu'r Adran Gwaith a Phensiynau. Maen nhw wedi'u gohirio, yn ôl a ddeallaf, o ganlyniad i COVID, ond gwnaf yn siŵr fy mod yn trosglwyddo'r cwestiwn a'r sylw y mae'r Aelod wedi'i wneud i'm cydweithiwr gweinidogol a all sicrhau y cawn ni'r argoel gorau posibl o sut olwg allai fod ar y broses yn y dyfodol a'r amser a allai hynny gymryd. Mae'n gwbl hanfodol, fel y mae cwestiwn yr Aelod yn awgrymu, fod y menywod yr effeithir arnyn nhw yn cael eglurder canlyniad y trafodion hynny cyn gynted â phosib.