Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 12 Ionawr 2021.
Diolch i Mark Isherwood am godi'r ddau fater hynny. Fel y nodais i yn y datganiad busnes, mae gennym ni ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol nesaf ar yr agenda heddiw ac mae hynny'n ymdrin yn benodol â'n dull ni o frechu yng Nghymru. Gwn y bydd yn manteisio ar y cyfle hwnnw i ddweud rhagor am y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio a'r cyngor y mae'n ei roi i Lywodraeth Cymru o ran yr amserlenni blaenoriaeth. Felly, Llywydd, mae'r ddadl honno'n dod nesaf y prynhawn yma.