Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 12 Ionawr 2021.
A gaf i ofyn, Trefnydd, am ddatganiad gan Weinidog yr amgylchedd ynglŷn ag unrhyw oblygiadau i Gymru yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU dros y penwythnos i ganiatáu trwydded dros dro ar gyfer defnydd plaladdwyr neonicotinoid mewn rhannau o'r DU? O fewn dyddiau i ddiwedd cyfnod pontio'r UE, mae Llywodraeth y DU wedi caniatáu mesur sydd â blas o'r dull hwnnw o ddadreoleiddio yr oeddem ni i gyd yn ofni y byddai'n dod i'r amlwg. Mae'n caniatáu defnyddio plaladdwyr neonicotinoid, er bod hynny'n gyfyngedig ar hyn o bryd i fetys siwgr yn Lloegr, pan ddywedodd adroddiad yn 2019 gan Sefydliad Iechyd y Byd
Mae corff o dystiolaeth sy'n tyfu'n gyflym yn awgrymu'n gryf bod y lefelau presennol o lygredd amgylcheddol— gan blaladdwyr neonicotinoid— yn achosi effeithiau andwyol ar raddfa fawr ar wenyn a thrychfilod buddiol eraill.
Felly, y pryder sydd gan lawer, Trefnydd, yw mai dim ond dechrau'r duedd o ddadreoleiddio yw hyn. Felly, fe allai datganiad helpu i egluro sut y gall y Senedd hon, a Llywodraeth Cymru, ddiogelu Cymru rhag y bygythiadau o lastwreiddio amddiffyniadau amgylcheddol a orfodir gan San Steffan. A hefyd fe allai datganiad helpu i egluro safbwynt Llywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer cynllun gweithredu plaladdwyr cenedlaethol i Gymru er mwyn trosi'n briodol y defnydd cynaliadwy o gyfarwyddebau ar blaladdwyr i Gymru, a gwneud cyfiawnder, mae'n rhaid imi ddweud, â'r hyn sy'n nod gwirioneddol wych gan Weinidog yr amgylchedd, sef bod y safonau amgylcheddol yng Nghymru yn cyfateb i'r safonau mewn mannau eraill yn y DU, os nad yn well na nhw. Diolch, Trefnydd.