Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 12 Ionawr 2021.
Mae'r cynllun yn adlewyrchu misoedd o gynllunio manwl ar y ddarpariaeth, ac yn nodi ein strategaeth a'n blaenoriaethau cenedlaethol ni ar gyfer y misoedd nesaf. Mae'r cynllun yn nodi tair carreg filltir allweddol. Erbyn canol mis Chwefror, fe fydd pob un sy'n preswylio mewn cartrefi gofal yn ogystal â'r staff, holl staff rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol, pawb dros 70 oed a phawb sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol neu'r rhai sydd ar y rhestr warchod wedi cael cynnig y brechlyn. Erbyn y gwanwyn, fe fydd brechu wedi cael ei gynnig i'r holl grwpiau eraill o flaenoriaeth yng ngham 1. Mae hynny'n golygu pawb dros 50 oed a phawb sydd mewn perygl oherwydd bod ganddyn nhw gyflwr iechyd sylfaenol. Fe fydd cwblhau hyn o ran pob grŵp a nodwyd yn flaenoriaeth yng ngham 1 yn diogelu'r grwpiau hynny y mae 99 y cant o'r holl farwolaethau y gellir eu hosgoi yn digwydd iddynt. Erbyn yr hydref, fe gaiff brechlyn ei gynnig i bob oedolyn arall sy'n gymwys yng Nghymru, yn unol ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Cyd-bwyllgor arbenigol annibynnol ar Frechu ac Imiwneiddio.
Erbyn yr hydref, y nod yw y bydd 2.5 miliwn o bobl Cymru wedi cael cynnig eu himiwneiddio—y cyfan o fewn ychydig fisoedd. Mae hon yn dasg enfawr i GIG Cymru. Mae'n werth nodi nad oes unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud ar gam 2 eto a sut i flaenoriaethu proses cyflwyno'r brechiadau ar gyfer y cam hwnnw. Serch hynny, fe fydd y JCVI yn rhoi cyngor ar y cam nesaf i'w ystyried gan bedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae'r cerrig milltir hyn yn y cynllun ar yr amod fod yna gyflenwad digonol o frechlynnau ar gael. Rydym wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd y cyflenwadau ar gael. Eto i gyd, yn y pen draw, mae hwn yn fater sydd y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru.
Mae'r cynllun yn cynnwys tri nod hefyd, ar rydym yn bwriadu eu cyflawni nhw fel rhan o'r daith tuag at gyflawni carreg filltir 1. Erbyn 18 Ionawr, bydd holl staff ambiwlans rheng flaen Cymru wedi cael cynnig eu dos cyntaf o'r brechlyn. Mae hyn yn rhan o'n nod ni i frechu'r holl staff iechyd a gofal rheng flaen cyn gynted â phosibl, o ystyried y pwysau sydd ar ein GIG ni a swyddogaeth hollbwysig ein staff iechyd a gofal ni yn y pandemig hwn. Erbyn diwedd mis Ionawr, fe fydd holl breswylwyr a staff cartrefi gofal wedi cael cynnig eu dos cyntaf o'r brechlyn. Er bod llawer o staff cartrefi gofal wedi mynd i'n canolfannau brechu am eu dos cyntaf o'r brechlyn yn ystod wythnosau cynnar y rhaglen, roedd allgymorth i gartrefi gofal yn anodd oherwydd yr heriau cyfarwydd iawn sy'n gysylltiedig â brechlyn Pfizer-BioNTech. Maen nhw'n destun blaenoriaeth nawr yn dilyn cyflwyno brechlyn Rhydychen-AstraZeneca yr wythnos diwethaf. A hefyd, erbyn diwedd mis Ionawr, ein nod ni yw y bydd o leiaf 250 o bractisau cyffredinol ledled Cymru yn rhan o'r model cyflenwi. Mae swyddogaeth gofal sylfaenol yn elfen hanfodol yn ein rhaglen ni: mae'r 250 o bractisau a fydd yn gweithredu ymhen ychydig wythnosau yn amlygu'r cyfleoedd o ran niferoedd y mae gofal sylfaenol yn eu cyflwyno. Un peth yw niferoedd, ond ystyriaeth allweddol arall yw hygyrchedd, ac fe fydd datrysiadau o ran gofal sylfaenol yn sicrhau bod y brechiadau yn cael eu cynnig yn nes adref i'r rhai sydd eu hangen fwyaf.
Mae'r cynllun yn nodi ein dull tymor canolig ni o frechu 2.5 miliwn o bobl yng Nghymru. Os yw'r flwyddyn ddiwethaf wedi dysgu unrhyw beth i ni, gwyddom y gall pethau newid. Fe fydd ein cynllun ni'n cael ei ddiweddaru o bryd i'w gilydd i adlewyrchu'r newidiadau hyn. Fe gaiff ei ddiweddaru hefyd wrth inni fynd o un garreg filltir i'r llall ac wrth i fwy o eglurder ddod i'r amlwg ar y camau nesaf, yn enwedig o ran cam 2 y rhaglen.
Serch hynny, mae angen imi atgoffa'r Aelodau a'r cyhoedd sy'n gwylio fod y sefyllfa yng Nghymru ar ddechrau 2021 yn parhau i fod yn un ddifrifol iawn. Mae achosion y feirws yn niferus iawn, ac mae'r math newydd, mwy heintus o goronafeirws—straen Swydd Caint—wedi dod i'r amlwg ledled y DU, ac mae'n ymledu ym mhob rhan o Gymru. Ras yn erbyn y feirws yw hon, ac mae'r rhaglen frechu yn destun gobaith mawr i ni. Bydd cyrraedd y llinell derfyn yn farathon o ymdrech dros y misoedd nesaf i ddod. Nid yw'r brechlyn yn ddatrysiad cyflym, ond rwy'n hyderus y bydd tîm GIG Cymru yn cyflwyno rhaglen frechu y bydd pawb ohonom ni'n ymfalchïo ynddi, ac fe fydd yn helpu i achub llawer o fywydau.
Yn union fel mae gan ein GIG ni, llywodraeth leol, cymorth y lluoedd arfog, a'n gwirfoddolwyr ni bob un eu rhan wrth ddarparu'r rhaglen frechu fwyaf erioed mewn hanes, mae gan bob un ohonom ni hefyd ein rhan wrth gadw Cymru'n ddiogel: dal ati i olchi ein dwylo'n rheolaidd, cadw pellter priodol oddi wrth bobl eraill nad ydynt yn byw ar ein haelwyd ni, a gwisgo masg wyneb lle bod angen, ac, ie, gwneud yn siŵr ein bod yn darparu awyru da lle bynnag y bo modd. Mae gan bob un ohonom ni ran wrth helpu i gadw Cymru'n ddiogel. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.