Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 12 Ionawr 2021.
Ond dychwelaf nawr at y gwaith o ymateb i'r sylwadau ynglŷn â'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Roedd rhywfaint o ddiddordeb yn enwedig yng nghyllid COVID a pham mai dim ond £77 miliwn yr ydym ni wedi'i ddyrannu ar hyn o bryd. Nawr, bydd cyd-Aelodau yn ymwybodol ein bod wedi cael £776 miliwn o gyllid sy'n gysylltiedig â COVID. Mae'r cyllid yr ydym ni wedi'i ddyrannu wedi bod yn bwysig iawn o ran y meysydd hynny lle mae parhad gwasanaethau mor bwysig. Felly, rydym ni wedi rhoi cyllid ychwanegol, er enghraifft, o £10 miliwn i gynnal ein gwaith o ran y gweithlu olrhain cysylltiadau er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cadw'r bobl hynny mewn gwaith a sicrhau eu bod yn gwneud eu cyfraniad pwysig i'n hymateb i COVID. Rydym ni hefyd wedi cadw'r £4 miliwn hwnnw yn ei le ar gyfer y grant atal digartrefedd mewn cysylltiad â COVID, oherwydd byddwch wedi gweld dros y ffin yr effaith y mae penderfyniad y Ceidwadwyr i droi eu cefn ar bobl ddigartref yn ystod yr haf hwn wedi'i gael, ond wrth gwrs, yng Nghymru, mae'r sefyllfa'n wahanol iawn ac rydym ni wedi cynnal ein cefnogaeth a byddwn yn parhau i wneud hynny y flwyddyn nesaf hefyd. Byddwch hefyd yn gweld gwerth £18.6 miliwn o gyllid COVID yn gysylltiedig â'r diwydiant bysiau, ac mae hynny i sicrhau bod ganddyn nhw rywfaint o sefydlogrwydd ariannol ar ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf, a £6 miliwn ar gyfer Cymunedau am Waith a Mwy, ac mae hynny'n bwysig o ran darparu'r cymorth cynghori arbenigol hwnnw ar gyflogaeth a'r mentora dwys y bydd ei angen ar bobl ar yr adeg anodd iawn yma. Fy mwriad yw gwneud rhai dyraniadau pellach, o bosib mewn cysylltiad â'r GIG a llywodraeth leol rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol, ac fel y mae rhai cyd-Aelodau wedi cydnabod, mae'n bwysig cadw'r hyblygrwydd hwnnw, oherwydd hyd yn oed ers inni gyhoeddi'r gyllideb ddrafft mae'r sefyllfa wedi newid gymaint ac mor gyflym o ran amrywiolyn diweddaraf y feirws. Felly, mae'r math hwnnw o hyblygrwydd yn bwysig.
Hoffwn symud ymlaen a sôn hefyd fod maes arall lle gallai fod rhywfaint o arian pellach wedi'i ddyrannu mewn cysylltiad â Brexit, gan ein bod bellach wedi dod i ddiwedd y cyfnod pontio. Unwaith eto, yn y gyllideb ddrafft, nid oeddwn mewn sefyllfa i wneud unrhyw ddyraniadau gan nad oeddem yn gwybod ym mha ffordd y byddai pethau'n dod i ben o ran diwedd y cyfnod pontio. Gwyddom nawr, gwyddom am y cytundeb, felly efallai y byddaf mewn sefyllfa i wneud rhai dyraniadau pellach yn hynny o beth hefyd.
Rwyf wir eisiau sôn am newid hinsawdd, oherwydd mae ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd wedi bod wrth wraidd ein cyllideb ddrafft. Er mwyn tawelu meddyliau cyd-Aelodau, ni fu unrhyw doriadau o ran y cyllid craidd ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru; sydd wedi'i gynnal. Ac mae ein cyllid ar gyfer llifogydd wedi cynyddu £3.4 miliwn mewn gwirionedd, yn enwedig o ran y rhaglen rheoli risg arfordirol. Yr hyn a welwch chi yw symudiad o un prif grŵp gwariant i un arall. Felly, rwy'n credu y bydd hynny'n rhoi'r eglurder sydd ei angen a'r cadarnhad sydd ei angen yn hynny o beth. Y llynedd, yn ein cyllideb, roeddem yn falch iawn o allu cyhoeddi'r pecyn mwyaf erioed o ran cymorth i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac i gefnogi bioamrywiaeth. Mae'r mwyafrif helaeth o'r cyllid hwnnw wedi'i gynnal i'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond yn ogystal, rydym yn dyrannu bron i £80 miliwn o gyllid cyfalaf ac £17 miliwn o arian refeniw i gefnogi ymyriadau newydd. Ac mae'r rheini'n cynnwys, er enghraifft, y gwaith o gefnogi cynllun cyflawni strategol datgarboneiddio ar gyfer y GIG, y mae'r Ymddiriedolaeth Garbon yn gweithio arno ac y bydd yn ei gwblhau yn gynnar eleni. Felly, mae'r gyllideb yn darparu £6 miliwn o gyfalaf ychwanegol i gefnogi'r gwaith o ddarparu'r cyfleoedd effeithlonrwydd ynni hynny ar ystâd y GIG.
Mae rhai cyd-Aelodau wedi sôn am y cyllid ychwanegol o £20 miliwn i gefnogi teithio llesol, er enghraifft, ac mae hynny'n mynd â'n buddsoddiad i dros £50 miliwn yn 2021-22. Cymharwch hynny â'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi ar ddechrau'r Senedd hon, pan oedd y cyllid oddeutu £16 miliwn yn unig. Credaf fod hyn yn dangos nid yn unig y ffordd y mae'r agenda hon wedi tyfu, ond y gefnogaeth gynyddol a gwell y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi o flwyddyn i flwyddyn i deithio llesol.
Ac rwy'n gynhyrfus ynghylch y £5 miliwn o gyllid cyfalaf yr ydym ni wedi'i ddyrannu i ddatblygu'r gwaith o gyflawni prosiect treialu di-carbon i ddatgarboneiddio ysgolion a cholegau yng Nghymru. Credaf ei bod hi'n bwysig inni ymgysylltu â phobl ifanc ar yr agenda benodol hon. Gwyddom i gyd pa mor angerddol yw llawer o bobl ynghylch newid hinsawdd, ac mae'r ffaith y gallwn ni gefnogi eu hamgylcheddau dysgu i ddod yn llawer mwy ecogyfeillgar, mi gredaf, yn bwysig iawn hefyd.
Ac yna, maes mawr arall nad yw wedi diflannu, wrth gwrs, yw tlodi, ac, os rhywbeth, mae'r pandemig wedi amlygu hyn yn gliriach a gwyddom mai'r bobl a oedd eisoes yn cael trafferth cyn y pandemig yw'r rhai sydd wedi cael eu taro galetaf ganddo, a dyna lle y byddwch yn gweld rhai dyraniadau pwysig o fewn y gyllideb ddrafft hon a fydd yn ein helpu i barhau â'r gwaith o fynd i'r afael â'r materion hynny, gan ddyrannu, er enghraifft, £9 miliwn o gyllid cyfalaf i dasglu'r Cymoedd. Mae hynny'n rhan gwbl allweddol o'n hymateb i gefnogi cymunedau yng Nghymoedd y de i ddod yn fwy llewyrchus a chadarn, a chredaf fod yr ymrwymiad hwnnw'n ddyraniad pwysig.
A hefyd, fel yr wyf wedi sôn o'r blaen yn fy sylwadau agoriadol, y cyllid ychwanegol ar gyfer y grant cymorth tai, ac rydym hefyd yn darparu £20 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer ein rhaglen Cartrefi Clyd Arbed a chynllun Nyth Cartrefi Clyd fel y gallwn ni amlhau i'r eithaf ein hymdrechion i fynd i'r afael â thlodi tanwydd a hefyd ein rhaglenni ynni adnewyddadwy. A byddwch yn gweld cyllid ychwanegol yn y gyllideb ar gyfer gwasanaethau cynghori, oherwydd gwyddom y byddant yn wynebu mwy o bwysau wrth i ni symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf hefyd.
Ac yna, ochr yn ochr â'r gwaith yr ydym ni yn ei wneud i sicrhau bod ein rhaglen prydau ysgol am ddim yn parhau drwy'r haf, nid ydym yn bodloni ar hynny'n unig; rydym mewn gwirionedd yn dyrannu £2.2 miliwn yn ychwanegol ar gyfer y rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol, ac mae hynny'n ymwneud â darparu llawer mwy na bwyd i bobl ifanc drwy'r gwyliau; mae'n ymwneud â rhoi cyfleoedd iddyn nhw ddatblygu cyfeillgarwch, bwyta'n iach, dod yn fwy egnïol a pharhau i ddysgu, a pheidio â chael eu gadael ar ôl mewn unrhyw ffordd yn ystod gwyliau'r haf hefyd.
Felly, rwy'n gobeithio fy mod wedi gallu mynd i'r afael â rhai o'r materion allweddol hynny, ac eto, mae fy nghyd-Aelodau a minnau'n edrych ymlaen at fanylu mwy ar bwyllgorau, ond byddwn i'n gorffen drwy ddweud, er gwaethaf yr amgylchiadau mwyaf heriol yr ydym ni wedi'u hwynebu erioed, fod y gyllideb hon yn cyflawni ein gwerthoedd ac yn darparu rhai sylfeini cadarn i'r weinyddiaeth nesaf adeiladu arnyn nhw. Ein blaenoriaethau ni o hyd, fel y gwelwch chi, yw diogelu iechyd y cyhoedd a gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig pan fu cymaint o aberthu eleni, ond heb golli golwg ar ein huchelgais i adeiladu ar gyfer dyfodol gwyrddach a hyrwyddo'r newid yr ydym ni eisiau ei weld ar gyfer Cymru decach a mwy cyfartal.
Felly, wrth gloi, Llywydd, rwy'n falch iawn bod y gyllideb hon yn ymateb i'r heriau sy'n ein hwynebu gan hefyd ddiogelu ein huchelgeisiau a'n gwerthoedd i ddiogelu, adeiladu a newid ar gyfer Cymru fwy cyfartal, mwy ffyniannus a gwyrddach. Diolch.