– Senedd Cymru am 5:25 pm ar 12 Ionawr 2021.
Symudwn ymlaen nawr at eitem 10 ar ein hagenda, sef Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2021, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig. Rebecca Evans.
Cynnig NDM7533 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Rhagfyr 2020.
Diolch. Rwy'n croesawu'r cyfle i gyflwyno'r rheoliadau diwygio hyn heddiw. Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2021 yn diwygio rheoliadau cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor 2013. Mae'r cynllun yn rhoi cymorth uniongyrchol i aelwydydd ledled Cymru drwy leihau eu biliau treth gyngor. Diddymodd Llywodraeth y DU fudd-dal y dreth gyngor ar 31 Mawrth 2013 a throsglwyddodd y cyfrifoldeb am ddatblygu trefniadau newydd i Lywodraeth Cymru. Ynghyd â phenderfyniad Llywodraeth y DU, roedd toriad o 10 y cant i'r cyllid ar gyfer y cynllun.
Ymatebodd Llywodraeth Cymru drwy lenwi'r bwlch cyllido i gynnal hawliau i gymorth yn 2013, ac rydym ni wedi parhau i gynnal hawliau bob blwyddyn ers hynny. Ar hyn o bryd, mae'r cynllun yn cynorthwyo oddeutu 280,000 o'r aelwydydd tlotaf yng Nghymru. Wrth i'r pandemig barhau i roi mwy o bwysau a chaledi ar bobl Cymru, mae'n bwysicach fyth ein bod yn sicrhau bod y systemau sydd ar waith i'w cynorthwyo mor deg ag y gallant fod ac yn cael eu cadw'n gyfredol.
Mae angen diwygio deddfwriaeth bob blwyddyn i sicrhau bod y ffigurau sy'n cael eu ddefnyddio i gyfrifo hawl bob aelwyd i ostyngiad yn cael eu cynyddu er mwyn ystyried cynnydd yng nghostau byw. Mae rheoliadau 2021 yn gwneud yr addasiadau hyn ac yn cynnal yr hawliau presennol i gael cymorth. Mae'r ffigurau ariannol ar gyfer 2021-22 sy'n ymwneud â phobl oedran gweithio, pobl anabl a gofalwyr yn cael eu cynyddu yn unol â'r mynegai prisiau defnyddwyr—0.5 y cant. Mae ffigurau sy'n ymwneud ag aelwydydd pensiynwyr yn parhau i gael eu cynyddu yn unol â gwarant isafswm safonol Llywodraeth y DU ac yn adlewyrchu'r uwchraddio o ran budd-dal tai.
Rwyf hefyd wedi achub ar y cyfle i gynnwys mân newidiadau technegol ac i wneud diwygiadau ychwanegol i adlewyrchu newidiadau eraill i fudd-daliadau cysylltiedig. Er enghraifft, rwyf yn diwygio'r rheoliadau i sicrhau y bydd y taliadau iawndal Windrush a gafwyd gan bobl yn cael eu diystyru fel nad ydyn nhw'n newid hawl unigolyn i gael cymorth drwy gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor.
Mae'r rheoliadau hyn yn cynnal hawliau i ostyngiadau ym miliau'r dreth gyngor ar gyfer aelwydydd yng Nghymru. O ganlyniad i'r cynllun hwn, bydd yr aelwydydd o dan y mwyaf o bwysau sy'n derbyn y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn parhau i beidio â thalu dim treth gyngor yn 2021-22. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw.
Diolch. Nid oes gennyf i siaradwyr, felly y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig hwnnw.