9. Dadl Fer: Datblygiadau cyfansoddiadol yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 13 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 4:25, 13 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Fodd bynnag, newidiodd ystyr cyfeiriadau deddfwriaethol at 'yr Ysgrifennydd Gwladol' ar gyfer llawer o swyddogaethau yng Nghymru ymhell cyn datganoli yn 1999, gyda chreu Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn 1964 a sefydlu'r Swyddfa Gymreig yn 1965. Efallai ei bod yn anodd dychmygu Cledwyn Hughes, heb sôn am George Thomas, yn rhoi datganiad unochrog o annibyniaeth ar sut i reoli pandemig yng Nghymru, ac roeddent, wrth gwrs, yn ddarostyngedig i gyfrifoldeb cyfunol y Cabinet, ond roeddent yn meddu ar hadau, fan lleiaf, y pwerau cyfreithiol a ddefnyddir heddiw. Felly, ynghanol y 1960au y dechreuasom weld Cymru'n gwahanu'n weinyddol oddi wrth rai o adrannau Whitehall y DU—gwahaniad a ddefnyddiwyd wedyn i fynnu datganoli. Pam y dylai'r gwasanaeth iechyd gwladol, a sefydlwyd o Gymru gan Aneurin Bevan ar gyfer y Deyrnas Unedig, gael ei chwalu fel hyn? Pa mor uchel yw'r pris y mae'n rhaid inni ei dalu yn awr am y rhwystr a godwyd rhwng ein GIG yng Nghymru a Llywodraeth y DU?

Methodd y system iechyd ddatganoledig yng Nghymru gyflawni profion torfol, cyn ceisio cymorth gan Lywodraeth y DU o'r diwedd, ac mae bellach ar ei hôl hi gyda brechu torfol. Yng Nghymru, rydym dan anfantais oherwydd y rhyngwyneb hwnnw, a syrthni gweinyddol ymddangosiadol ein system ddatganoledig. Rydym hefyd ar ein colled o gymharu â sut y byddai pethau pe byddem yn deyrnas wirioneddol unedig, oherwydd mae pwerau i bennu'r grwpiau blaenoriaeth ar gyfer brechu wedi'u datganoli. O dan ddatganoli, rydym yn penderfynu sut i ddosbarthu cyfran y boblogaeth o frechlyn. At ei gilydd, rydym yn mabwysiadu'r un categorïau a threfn â Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr, ond rydym yn cael y brechlyn i mewn i freichiau pobl yn llai cyflym. Pe bai Llywodraeth y DU yn rheoli'r drefn yng Nghymru yn ogystal ag yn Lloegr, gyda'r un categorïau brechu, byddem yn elwa nid yn unig o'u cyflwyno'n gyflymach, ond o gyfran uwch na'r boblogaeth, oherwydd bod ein poblogaeth yn hŷn. Diolch i ddatganoli, nid yw hyn yn digwydd. Ai dyma'r hyn roedd pobl ei eisiau pan wnaethant bleidleisio mewn refferenda yn 1997 neu yn 2011 neu'n wir, yn 1979? A oedd unrhyw un o ddifrif o'r farn fod cynnwys iechyd, yn arbennig, ymhlith y rhestr o gymwyseddau datganoledig yn golygu y gallai Llywodraeth Cymru benderfynu pryd y gallent adael eu tŷ, neu orfodi ffin â Lloegr i atal pobl rhag dod i mewn i Gymru neu ei gadael? Wrth gwrs nad oeddent.

Nawr, mae gan y Gweinidog hanes wrth gwrs pan ddaw'n fater o geisio anwybyddu canlyniadau refferenda nad yw'n eu hoffi. Pan bleidleisiodd Cymru a'r Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, addawodd barchu'r canlyniad, ac eto treuliodd lawer o'r pedair blynedd a hanner nesaf yn ceisio ei rwystro. Diolch byth, fe fethodd hynny, ond mae gwaddol yr ymgais honno, gosod y Senedd hon yn erbyn pobl Cymru a'r hyn y gwnaethant bleidleisio drosto yn y refferendwm hwnnw, wedi tanseilio datganoli. Llywodraeth y DU a gyflawnodd Brexit, yn wyneb ein gwrthwynebiad sefydliadol a chyda chefnogaeth ddigynsail ar draws llawer o Gymru. Yn yr un modd, er bod y Gweinidog a'i gydweithwyr yn hoffi galw am barchu refferendwm Cymru yn 2011, nid ydynt wedi ei barchu ronyn yn fwy na'r Ceidwadwyr. Ar ôl pleidlais dros ddatganoli pwerau deddfu mewn 20 maes diffiniedig, gyda'r gweddill wedi'i gadw'n ôl i San Steffan, penderfynasant wneud y gwrthwyneb i'r hyn y pleidleisiwyd drosto, drwy ddatganoli'r holl bwerau oni bai eu bod wedi'u cadw'n ôl.

Cafodd pwerau pellach eu datganoli hefyd, nid yn unig heb refferendwm pellach, ond yn benodol groes i fandad y refferendwm hwnnw yn 2011. Gwarantodd y refferendwm i bleidleiswyr na fyddai pwerau codi trethi'n cael eu datganoli heb refferendwm pellach—safbwynt a ymgorfforwyd yn y gyfraith. Argraffwyd datganiad hyd yn oed ar y papur pleidleisio ei hun yn datgan

'Ni all y Cynulliad ddeddfu ar drethiant beth bynnag fydd canlyniad y bleidlais hon.'

Ac eto, mae gan y sefydliad hwn, a ailenwyd yn Senedd Cymru, heb ganiatâd ein pleidleiswyr, a ailddiffiniwyd gennym i gynnwys pobl ifanc 16 oed a'r holl wladolion tramor sy'n byw yng Nghymru i bob pwrpas, bŵer erbyn hyn i godi treth incwm gymaint ag y mae ei eisiau. Mae telerau refferendwm 2011 wedi'u bwrw o'r neilltu.

Rydym hefyd yn gweld diwedd ar ein gorgynrychiolaeth yn San Steffan bellach wrth inni weld lleihau nifer yr ASau o 40 i 32, yn union fel y gwelodd yr Alban nifer ei ASau yn gostwng o 72 i 59 ar ôl datganoli—cafodd hyn ei ohirio ar gyfer Cymru tan yr adolygiad o ffiniau yn dilyn datganoli pwerau deddfu sylfaenol. Nid oedd yn un o ganlyniadau refferendwm 2011 y dewisodd yr ochr 'ie' eu hegluro wrth geisio ein rhyddhau o'r gweithdrefnau ar gyfer Gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol, na ellir gwadu eu bod yn feichus. Ac wrth gwrs, nid oedd y refferendwm hwnnw'n rhoi'r dewis i Gymru roi diwedd ar ddatganoli; dim ond un ffordd y caniatawyd i'r broses honno fynd byth—i gyfeiriad annibyniaeth.