Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 13 Ionawr 2021.
Byddai angen mandad tebyg, gyda llaw, ar gyfer y rhai sy'n ceisio tynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig. Nid ydym am i hynny ddigwydd am y rhesymau a amlinellais yn gynharach. Cymru gref y mae ei llais wedi'i glywed a'i hanghenion yn cael eu hadlewyrchu—ac yn sicr wedi'u clywed a'u hadlewyrchu'n well na heddiw—mewn DU gref yw'r hyn rydym am ei weld. Nid dyma'r amser, mor fuan ar ôl i Lywodraeth y DU ein tynnu allan o'n teulu Ewropeaidd o genhedloedd, ar gyfer gwahanu ymhellach nac ar gyfer lleihau ein democratiaeth yng Nghymru, fel y mae'r Aelod am ei weld.
Annibyniaeth, wrth gwrs, yw'r llwybr y mae Llywodraeth bresennol yr Alban yn ceisio'i ddilyn i'w phobl. Nid ydym am weld yr Alban yn gadael yr undeb, er ein bod yn parchu hawl pobl yr Alban i wneud y penderfyniad hwnnw. Pe bai'n digwydd, byddai angen inni ailedrych yn sylfaenol ar berthynas Cymru â Lloegr. Ond y ffordd sicraf o arwain at ddiddymu'r undeb yw amddiffyn y status quo. Gadewch imi fod yn glir: nid oes dadl dros gadw'r status quo. Fel y dywedodd erthygl olygyddol yn y Financial Times yn ddiweddar, mae cyfansoddiad Prydain yn llanast. Mae'r undeb ei hun mewn perygl. Y ffordd orau o gefnogi'r undeb a'i gyfansoddiad, yn groes i thema'r Aelod, yw parchu, ac ymestyn datganoli pŵer i Gymru a ledled y DU.
Ac eto, mae Llywodraeth y DU wedi cyflawni fandaliaeth gyfansoddiadol ar wahanol bwerau, yn fwyaf diweddar—er gwaethaf ymdrechion aruthrol Tŷ'r Arglwyddi, dylwn ddweud—drwy Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, sy'n bygwth cyfyngu ar allu deddfwriaethol y Senedd mewn meysydd sydd wedi'u datganoli ar hyn o bryd. Mae'n bygwth Deddf Llywodraeth Cymru 2006, a gostyngiad mewn grym datganoledig, i gyd ar fympwy Llywodraeth y DU. Mae'n sefyllfa echrydus fy mod i, fel swyddog y gyfraith, yn teimlo rheidrwydd i ystyried troi at ymyrraeth y llysoedd hyd yn oed.
Rwyf am gydnabod y rhaglen waith hir rhwng y pedair Llywodraeth ar gydweithredu o fewn y DU yn y maes hwnnw, ac rwy'n talu teyrnged i weision sifil ym mhob gwlad, a'n partneriaid a'n rhanddeiliaid, am yr ymdrechion y maent wedi'u gwneud i sicrhau ein bod wedi sefydlu'r fframweithiau cyffredin ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. Ond yn sicr ni chafodd yr ysbryd cydweithredol hwnnw ei adlewyrchu yng ngweithredoedd Llywodraeth Johnson wrth iddi osod y ddeddfwriaeth hon yn unochrog. Yn ogystal ag anwybyddu gwrthodiad y Senedd i gydsynio i Ddeddf marchnad fewnol 2020, ni wnaeth Llywodraeth y DU drafferthu rhoi digon o amser i unrhyw un o'r deddfwrfeydd yn y DU graffu ar y ddeddfwriaeth—gwarth cyfansoddiadol newydd, yn enwedig o gofio mai Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Berthynas yn y Dyfodol) 2020 yw un o statudau cyfansoddiadol pwysicaf hanes diweddar. Dim ond yn y tymor canolig y daw ei effeithiau llawn yn glir. Mae Llywodraeth y DU wedi torri confensiwn Sewel, a byddwn ni fel Llywodraeth yn parhau i sicrhau y gall y Senedd arfer ei hawl i graffu ar ddeddfwriaeth o fewn ein cymhwysedd datganoledig, ond mae'n ofid mawr inni na allwn warantu y bydd cydsyniad y Senedd yn cael ei barchu.
Lywydd, rwy'n ofni fy mod wedi paentio darlun llwm, felly gadewch i mi orffen ar nodyn mwy cadarnhaol. Mae'r pandemig wedi dangos bod Cymru'n gweithredu ar ei gorau, fel cenedl hyderus a gofalgar a all gydweithio o fewn y DU ac yn rhyngwladol, tra'n gwneud ei phenderfyniadau ei hun ar ran ei phobl ei hun—drwy'r cyfnodau gwaethaf, rydym wedi cefnogi ein gilydd, ac oherwydd ein bod yn rhan o'r DU ac oherwydd bod gennym bwerau datganoledig i ymateb i anghenion ein dinasyddion a'n cymunedau. Byddwn yn dweud bod Llywodraeth Cymru ar y blaen gyda syniadau cyfansoddiadol, creadigol ac adeiladol yn y DU oherwydd ein bod yn credu mewn Cymru o fewn undeb diwygiedig, ac wrth i ni addasu i fywyd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, a chyn bo hir i fywyd ar ôl coronafeirws, ni fu erioed mor bwysig ein bod yn cydlywodraethu'r DU. Dyna a nodwyd gennym yn 'Diwygio ein Hundeb' yn 2019—20 argymhelliad ar gyfer trafodaeth gyhoeddus ar ddyfodol cyfansoddiadol mwy uchelgeisiol a mwy democrataidd. Nid ydym yn esgus bod gennym yr holl atebion—nid oes gan neb yr holl atebion—ond credwn ein bod wedi gofyn y cwestiynau cywir, ac mae'n bryd inni ddod at ein gilydd yn awr fel gwleidyddion ac fel cymdeithas sifil i ateb y cwestiynau hynny a chynnig llwybr o ddiwygio radical sy'n diwallu anghenion Cymru heddiw ac yfory.