1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 13 Ionawr 2021.
1. Pa ddarpariaeth ariannol bellach y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gwneud o fewn ei chyllideb flynyddol i fynd i'r afael ag effaith COVID-19 ar anghydraddoldebau a oedd eisoes yn bodoli yng Nghymru? OQ56099
Diolch. Gan adeiladu ar y dyraniadau a wnaed eleni i liniaru effaith yr argyfwng ar y rhai mwyaf agored i niwed, mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22 yn nodi cynlluniau sy’n cynnwys £23.1 miliwn yn ychwanegol ar gyfer prydau ysgol am ddim a £200 miliwn ar gyfer tai fforddiadwy a thai cymdeithasol.
Diolch, Weinidog. Credaf ei bod yn amlwg fod y pandemig wedi cael effaith arbennig ar y rheini a oedd eisoes yn ei chael hi'n anodd mewn sawl ffordd—felly, mae pobl o gefndiroedd mwy difreintiedig wedi dioddef mwy, o ran iechyd, yn economaidd ac yn gymdeithasol. Yn y cyd-destun hwnnw, croesawaf y £23 miliwn ar gyfer ehangu'r hawl i brydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau hyd at y Pasg y flwyddyn nesaf. Credaf fod hynny’n unol â'r hyn y mae sefydliadau fel Sefydliad Joseph Rowntree wedi'i ddweud—fod angen ichi gynyddu incwm teuluoedd a lleihau eu halldaliadau er mwyn trechu tlodi. A chredaf ei bod yn dda iawn fod pobl fel Marcus Rashford, sydd wedi ymgyrchu mor effeithiol dros y pethau hyn, wedi croesawu cyllid Llywodraeth Cymru o £23 miliwn a mwy. Ac mae'n dda gweld ymgyrchwyr o’r fath, Weinidog, yn defnyddio eu proffil a'u profiad bywyd eu hunain i helpu eraill ac yn arddel y safbwynt cymdeithasol ehangach hwnnw. Mae'n dda iawn hefyd, yn y cyfnod hwn o ansicrwydd yn ystod y pandemig, fod y rhaff achub hon ar gael i'n teuluoedd. Felly, gyda'r holl fanteision hynny yn sgil y ddarpariaeth hon, Weinidog, tybed a fydd Llywodraeth Cymru, maes o law, yn ystyried gwneud hon yn ddarpariaeth barhaol yma yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn i John Griffiths am godi'r mater pwysig hwn. Mae’n wir, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ymestyn ein darpariaeth o brydau ysgol am ddim drwy'r gwyliau ymhell cyn iddynt wneud y penderfyniad hwnnw dros y ffin yn Lloegr. Ac rwy’n cymeradwyo pobl ysbrydoledig fel Marcus Rashford, sydd wedi defnyddio'r llwyfan sydd ganddo i sicrhau newid dros y ffin. Rwyf yn meddwl o ddifrif fod hynny'n ysbrydoledig.
O ran symud ymlaen, rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cynnwys y dyraniad hwn yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd, er mwyn rhoi sicrwydd o’r fath i deuluoedd. Daw hynny ochr yn ochr â'r cyllid ychwanegol o £2.2 miliwn rydym yn ei ddarparu ar gyfer rhaglen gwella gwyliau’r haf, ac mae’r rhaglen honno ar gyfer plant rhwng saith ac 11 oed mewn ardaloedd difreintiedig yn ystod gwyliau'r haf fel y gallant elwa o gyfarfod â'u ffrindiau, o ddysgu mewn amgylchedd llawer mwy anffurfiol, a chael mynediad at brydau iach drwy'r dydd, ac ati. Felly, rwy'n falch y bydd y ddwy fenter ar waith ochr yn ochr â'i gilydd.
O ran blynyddoedd i ddod, yn anffodus unwaith eto, cylch gwario un flwyddyn yn unig rydym wedi’i gael gan Lywodraeth y DU. Ac roeddem yn disgwyl yn awchus am ein hadolygiad cynhwysfawr o wariant, nad yw wedi cyrraedd eto, ond gobeithiaf y byddwn mewn sefyllfa maes o law i gael golwg fwy hirdymor ar gyllid cyhoeddus ac i allu darparu rhai setliadau amlflwydd a rhoi sicrwydd ble bynnag y gallwn.
Fel y dywedodd y Gweinidog, mae John Griffiths wedi codi cwestiwn pwysig iawn. Credaf mai un o'r pethau mwyaf syfrdanol, yn sicr pan fyddwn yn edrych yn ôl ar hyn yn y dyfodol—y pandemig hwn—fydd y ffordd y mae wedi effeithio'n anghymesur ar wahanol rannau o’r gymdeithas a'r rheini sy'n dioddef o anghydraddoldebau cymdeithasol ac iechyd sy'n bodoli eisoes. Weinidog, rydych wedi sôn am brydau ysgol am ddim, rydych wedi sôn am dai cymdeithasol; ceir anghydraddoldebau iechyd hefyd, megis diabetes, dewisiadau ynghylch ffyrdd o fyw, gordewdra. Felly, nid oes un ateb syml i’w gael, nac oes, er mwyn mynd i’r afael â'r broblem wrth symud ymlaen? Felly, o ran y gyllideb hon a chyllidebau'r dyfodol, sut y byddwch yn sicrhau y bydd yr holl elfennau gwahanol hyn yn cael eu dwyn ynghyd, fel y gellir cael trosolwg, er mwyn—gobeithio na fyddwn yn gweld pandemig arall fel hwn yn y dyfodol agos, ond mae'r anghydraddoldebau hyn yn bodoli eisoes beth bynnag—er mwyn datrys y materion hyn, fel nad yw pobl dlotach yn cael eu heffeithio'n anghymesur yn y dyfodol pan fydd problemau iechyd fel hyn yn codi?
Mae Nick Ramsay yn llygad ei le wrth ddweud bod anghydraddoldebau wedi eu gwaethygu gan bandemig COVID, ac rydym wedi gweld sefyllfa’r bobl a oedd eisoes dan anfantais yn gwaethygu o ganlyniad i'r pandemig. Credaf fod y gwaith rydym wedi'i wneud i gefnogi'r trydydd sector yn y flwyddyn ariannol hon wedi bod yn bwysig iawn o ran ehangu ein cyrhaeddiad i mewn i gymunedau. Rydym ni, yn y flwyddyn ariannol hon, wedi darparu £26.5 miliwn drwy ymateb ein trydydd sector i argyfwng COVID-19, a chyflawnwyd hynny drwy ddulliau amlasiantaethol gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a’r 19 cyngor gwirfoddol yn gweithio ochr yn ochr â’u partneriaid statudol. Felly, mae dros 270 o sefydliadau wedi cael cymorth o dan y gronfa argyfwng i adfer y gwasanaethau gwirfoddol, gan alluogi bron i 9,000 o wirfoddolwyr i roi cymorth i dros 975,000 o fuddiolwyr, ac mae'r cyllid hwnnw’n darparu ar gyfer ystod o wahanol fathau o gymorth, gan gynnwys darparu cyngor, mynediad at barseli bwyd, dosbarthu meddyginiaethau ac yn y blaen. Felly, credaf fod ein hymateb i'r argyfwng hwn wedi creu rhwydwaith cryf iawn y gallwn adeiladu arno yn y blynyddoedd i ddod.