Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 13 Ionawr 2021.
Lywydd, ymrwymais yn y Pwyllgor Cyllid ddydd Gwener i ysgrifennu at y pwyllgor gyda'r manylion llawn am y gwaith modelu rydym wedi'i wneud i archwilio cost ymestyn y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim, a byddaf yn siŵr o’u rhannu hefyd gyda Rhun ap Iorwerth yn ogystal â'r Pwyllgor Cyllid i roi’r lefel honno o fanylder. Wrth gwrs, codwyd y mater hwn eto gyda'r Prif Weinidog yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog yr wythnos hon, a gwnaeth yr her—un gwbl ddilys yn fy marn i—yn yr ystyr, os ydym am ystyried gwario degau o filiynau o bunnoedd ychwanegol ar y fenter benodol hon—ac wrth gwrs, ceir dadl gref iawn dros gefnogi teuluoedd yn y ffordd hon—mae angen inni archwilio o ble yn y gyllideb y byddem yn mynd â’r arian hwnnw. Felly, credaf fod yn rhaid inni edrych ar y ddwy ochr i'r geiniog honno wrth wneud y dewisiadau hyn, ond byddaf yn rhannu'r wybodaeth honno cyn gynted ag y gallaf.