Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 13 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:52, 13 Ionawr 2021

Diolch yn fawr iawn, a dwi yn deall yn iawn, wrth gwrs, mai mater o flaenoriaethu ydy hyn ond dwi'n gobeithio y byddwch chi fel Gweinidog cyllid yn cytuno nad oes yna lawer mwy o flaenoriaeth na rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar blant sy'n byw mewn tlodi, ac, yn wir, i'w tynnu nhw allan o dlodi. Ar ôl gwneud y costio, mi benderfynoch chi am ryw reswm bod hyn ddim yn ddigon o flaenoriaeth i roi yn y gyllideb ddrafft. A wnewch chi rŵan ailystyried hyn wrth weithio ar y gyllideb derfynol?

Ac o ran yr hyn glywsom ni gan y Prif Weinidog ddoe, oni bai eich bod chi'n gallu fy nghywiro i dwi'n meddwl bod y Prif Weinidog ddoe wedi camddehongli yr hyn rydym ni'n edrych arno fo drwy awgrymu ein bod ni'n sôn am 70,000 o deuluoedd yn fan hyn. Os buasai un plentyn ym mhob teulu, mi fuasai'n costio £33 miliwn meddai fo, mwy os oes yna ddau blentyn yn y teulu, gymaint â £101 miliwn os oes yna dri phlentyn mewn teulu, ond sôn am 70,000 o blant ydyn ni yn fan hyn. Ar sail y ffigurau yna gawsom ni gan y Prif Weinidog felly, allwn ni gasglu mai £33 miliwn fyddai'r gost o ymestyn cinio am ddim i'r 70,000 o blant?