Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 13 Ionawr 2021.
Tybed a allech roi syniad i ni ble yn y gyllideb y gallem ddod o hyd i gymorth i'r Urdd a'r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig—neu EYST—sydd ill dau’n gwneud cyfraniadau hanfodol i waith ieuenctid yn fy rhanbarth, yn targedu grwpiau penodol o bobl ifanc fel rhan o waith polisi arall Llywodraeth Cymru. Nid wyf yn siŵr fod pob cyngor yn edrych ar yr Urdd yn enwedig fel sefydliad a all eu cefnogi mewn nifer o nodau polisi, yn enwedig gwaith ieuenctid cymunedol. A nodaf o'ch ateb blaenorol yr ymddengys bod Caerdydd wedi gwneud yn eithaf da o'r arian argyfwng yma, yn hytrach na chlywed gan rannau eraill o Gymru.