Gwasanaethau Ieuenctid

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 13 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:57, 13 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Mae cefnogi pobl ifanc Cymru sydd wedi’u taro galetaf gan y pandemig yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Yn ogystal â chynnal £10 miliwn ar gyfer y grant cymorth ieuenctid, gan gynnwys cymorth i fynd i’r afael ag iechyd meddwl a digartrefedd ymhlith pobl ifanc, rydym yn darparu cynnydd o £176 miliwn i lywodraeth leol i gefnogi gwasanaethau lleol hanfodol.