Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 13 Ionawr 2021.
Wel, mae’r gronfa galedi i awdurdodau lleol wedi galluogi awdurdodau lleol i ddarparu eu ceisiadau eu hunain am gyllid. Felly, mae'r cyllid sy'n mynd i'r awdurdodau lleol unigol yng Nghymru drwy’r gronfa honno yn cael ei ddarparu ar sail angen lleol a chost leol, yn hytrach na ffactor y pen, er enghraifft. Felly, credaf fod honno wedi bod yn ffordd o allu ymateb i'r effeithiau gwahaniaethol rydym wedi'u gweld ledled Cymru hyd yma. Ac wrth gwrs, mae’r pandemig yn effeithio’n wahanol ar wahanol fannau. Ychydig wythnosau yn ôl yn unig, roeddem yn edrych o'r de yn eiddigeddus iawn ar ogledd Cymru o ran y ffigurau ar gyfer y pandemig yno. Felly, credaf fod angen inni fod yn ymwybodol bob amser y gallai pethau newid yn sydyn iawn, a gallu sicrhau bod gennym gymorth hyblyg, fel y credaf sydd gennym ar gael i awdurdodau lleol ac i eraill.