Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 13 Ionawr 2021.
Diolch, Lywydd. Yn ystod y pandemig, mae mater gwerth am arian wedi dod yn fater amlwg iawn, yn ogystal â sicrhau, Weinidog, ein bod yn cael y gorau o bob punt Gymreig a werir. Dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, mae wedi dod i'r amlwg fod Llywodraeth Cymru yn ad-dalu €3.4 miliwn o gyllid gwledig i'r Comisiwn Ewropeaidd, yn dilyn adroddiad Archwilio Cymru y llynedd ar y rhaglen datblygu gwledig. Nawr, gwn fod cosb ariannol yr UE wedi’i lleihau o ychydig dros €33 miliwn i €3.412 miliwn, ond a allwch roi diweddariad i ni ar y sefyllfa bresennol gyda'r ad-daliad hwn, a pha wersi y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dysgu?