Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 13 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:44, 13 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i Nick Ramsay am godi mater y gosb ariannol yma yn y Senedd y prynhawn yma. Mae hwn yn fater yr ymdriniwyd ag ef yn bennaf gan fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, gan mai hi yw deiliad y gyllideb ar gyfer y rhaglen benodol honno. Felly, os yw'n dderbyniol i Nick Ramsay, byddaf yn sicr o ofyn i fy nghyd-Aelod ddarparu'r diweddariad hwnnw, oherwydd, fel y dywedaf, caiff ei reoli o fewn llinell y gyllideb benodol honno.FootnoteLink