Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 13 Ionawr 2021.
Bydd gwybodaeth, sicrwydd a chyllid parhaus yn gwbl allweddol er mwyn cadw ein busnesau yng Nghymru yn fyw eleni ac yn y blynyddoedd i ddod. Mae'n amlwg, Weinidog, y bydd angen cymorth y Llywodraeth ar fusnesau Cymru, cymorth ariannol am beth amser ar ôl i'r pandemig hwn ddod i ben, ond a allwch roi sicrwydd iddynt y bydd darparu'r cymorth ariannol hwnnw y mae ei wir angen arnynt, ac y bydd ei wir angen arnynt, yn cael blaenoriaeth wrth ichi wneud penderfyniadau ynghylch llunio cyllidebau yn y dyfodol? A beth rydych wedi'i wneud i roi cymorth i’r busnesau sydd wedi cwympo drwy’r bylchau o ran gallu cael cyllid y tro hwn, gan nad ydym am golli’r busnesau hollbwysig hynny? Diolch.