Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 13 Ionawr 2021.
Mi fydd angen cynllun addysg uchelgeisiol er mwyn cefnogi ein plant ni yn y cyfnod nesaf ôl-COVID, yn enwedig y plant rheini sydd wedi colli allan fwyaf ar eu haddysg—llawer o'r rheini o gefndiroedd difreintiedig. Dydw i ddim wedi gweld cynllun o'r math eto, ond yn sicr fydd hi ddim yn bosib talu am y gwaith ychwanegol anferth sydd ei angen o fewn y setliad i lywodraeth leol yn y gyllideb nesaf. Felly, hoffwn i ddeall sut rydych chi a'r Gweinidog Addysg yn bwrw ati yn gyntaf i weithio allan faint o arian fydd ei angen ar gyfer cynllun adfer addysg ystyrlon. Ac yn ail, wnewch chi egluro pa opsiynau sydd ar agor ichi o ran talu am gynllun uchelgeisiol sydd angen cychwyn eleni a pharhau i'r dyfodol?