Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 13 Ionawr 2021.
Weinidog, rwy'n siŵr y gall pob un ohonom gytuno nad oes dim yn cymharu â dysgu wyneb yn wyneb. Mae mynd i’r ysgol yn ymwneud â mwy na chyflawniad addysgol, mae'n rhan bwysig o ddatblygiad emosiynol ein pobl ifanc. Er bod COVID yn effeithio ar lefelau presenoldeb ysgolion, mae’n rhaid peidio â chaniatáu iddo effeithio ar ddatblygiad unigolyn ifanc, ac mae etholwr wedi cysylltu â mi sy'n poeni nad yw ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cynnal gwersi byw drwy gyswllt fideo, dim ond darparu llawlyfrau i’w lawrlwytho o wefan Twinkl. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi fod hyn yn annerbyniol, ac a wnewch chi sicrhau bod plant ledled Cymru yn parhau i gael gwersi byw drwy gyswllt fideo tra bo'r ysgolion ar gau?