Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 13 Ionawr 2021.
Diolch, Laura. Rydych yn llygad eich lle yn dweud bod mynediad at ddyfeisiau digidol yn un rhan o'r her. Ers cychwyn y pandemig, rydym wedi sicrhau bod oddeutu 106,000 o ddyfeisiau ar gael i ysgolion, dyfeisiau y gallant eu rhoi ar fenthyg i blant. Yn nhymor yr hydref, fe wnaethom sefydlu gweithgor dysgu o bell gyda'n partneriaid awdurdod lleol i ddeall ymhellach y rhwystrau i blant rhag gallu dysgu o bell pe bai hynny'n angenrheidiol. Rydym yn gweithio'n gyflym gyda'r awdurdodau lleol i fynd i'r afael ag anghenion y teuluoedd sydd wedi gofyn am gymorth ychwanegol yn nhymor yr hydref, yn ogystal ag edrych ar y materion sy'n ymwneud â chysylltedd, ac yn ôl yr hyn a ddywed awdurdodau lleol, mae hwnnw'n destun pryder mwy na’r dyfeisiau eu hunain ar hyn o bryd.