Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 13 Ionawr 2021.
Diolch yn fawr iawn, Alun. Ar ddechrau'r pandemig, comisiynodd fy swyddogion awdurdodau lleol i nodi'r holl ddysgwyr sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol, ar y cyd â'u hysgolion. Ers dechrau’r pandemig, rydym wedi sicrhau bod oddeutu 160,000 o ddyfeisiau ar gael i ysgolion, y gallant eu benthyg i'w disgyblion, ac oddeutu 10,848 o gysylltiadau MiFi.