2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 13 Ionawr 2021.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sicrhau bod gan bob disgybl fynediad at yr offer a'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i alluogi dysgu o bell? OQ56097
4. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau na chaiff dysgwyr yng Nghymru eu hallgáu'n ddigidol? OQ56113
Diolch yn fawr iawn, Alun. Ar ddechrau'r pandemig, comisiynodd fy swyddogion awdurdodau lleol i nodi'r holl ddysgwyr sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol, ar y cyd â'u hysgolion. Ers dechrau’r pandemig, rydym wedi sicrhau bod oddeutu 160,000 o ddyfeisiau ar gael i ysgolion, y gallant eu benthyg i'w disgyblion, ac oddeutu 10,848 o gysylltiadau MiFi.
Rwy'n ddiolchgar, Lywydd, i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Rwy'n credu ein bod yn rhannu ymrwymiad llwyr i gydraddoldeb mewn perthynas â mynediad at ddysgu, a gwn fod y Gweinidog wedi siarad yn rymus iawn am hyn, ac rwy'n cytuno â'r dull y mae wedi'i fabwysiadu, ac rwy'n cydnabod ei hymrwymiad i sicrhau bod pob dysgwr yn cael yr un cyfle i gael mynediad at ddysgu. Ac mae hi eisoes y prynhawn yma wedi ymdrin â materion yn ymwneud ag offer—gliniaduron, tabledi, ac adnoddau argraffu. Ond mae hefyd wedi cyffwrdd, yn yr ateb blaenorol, â'r broblem gyda chysylltedd. Ac mae hwn yn rhywbeth sy'n fy mhoeni'n fawr. Bydd yn gwybod o'i hetholaeth ei hun y gall cysylltedd fod yn rhwystr difrifol iawn i ddysgu. Mae cyflymderau lawrlwytho ym Mlaenau Gwent weithiau'n isel iawn hefyd. Ac mae pwysau sylweddol ar fynediad at fand eang, yn enwedig os yw rhiant yn gweithio gartref hefyd. Felly byddai gennyf ddiddordeb mewn deall sut y gall y Gweinidog nodi'r modd y mae cymorth ychwanegol yn cael ei ddosbarthu, a sut y gall hwnnw fynd i'r afael â mynediad at fand eang a chysylltedd, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn gallu cymryd rhan lawn mewn dysgu ar-lein.
Diolch, Alun. Ac yn wir, mae ein gweithgor gydag awdurdodau addysg lleol wedi tynnu sylw at broblemau cysylltedd fel rhai sy'n peri pryder iddynt. Yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf, fel y dywedais, gwnaethom ddosbarthu mwy na 10,000 o ddyfeisiau MiFi i ddysgwyr a oedd yn cael trafferth gyda chysylltedd. Rydym yn parhau i archwilio gydag awdurdodau lleol pa ddyfeisiau pellach sy'n angenrheidiol yn hynny o beth, yn ogystal ag edrych ar atebion arloesol eraill gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet sydd â chyfrifoldeb am faterion cysylltedd ehangach, i weld beth arall y gallwn ei wneud ar hyn o bryd.
Mae hefyd yn bwysig iawn deall sut y mae'r dyfeisiau hynny'n cael eu defnyddio. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae gennym rai pryderon ei bod yn ymddangos na fu llawer o ddefnydd ar y dyfeisiau a ddosbarthwyd yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf. Felly, unwaith eto, mae'n rhaid i ni ddeall y rhwystrau i ddysgu. Mae cyflenwi cyfarpar ac offer yn un peth, ond os na chaiff ei ddefnyddio bydd yr ymdrech honno'n ddibwrpas. Felly mae'n rhaid i ni ddeall beth arall y gallwn ei wneud, nid yn unig i gyflenwi'r cyfarpar a'r offer, ond i sicrhau bod dysgwyr a'r rhai sy'n gofalu amdanynt yn teimlo'n hyderus ac yn gallu defnyddio'r adnoddau hynny er mwyn parhau i ddysgu.
Rwy'n credu bod y Gweinidog wedi gofyn i'r cwestiwn hwn gael ei grwpio â chwestiwn 4. Os yw hynny'n wir, Weinidog, byddaf yn galw ar Lynne Neagle i ofyn ei chwestiwn atodol. Ydy. Lynne Neagle.
Weinidog, rwy’n croesawu canfyddiadau’r Sefydliad Polisi Addysg, a ddywedodd fod dyfeisiau digidol yng Nghymru wedi’u cyflwyno’n llawer cyflymach nag yng ngwledydd eraill y DU, canfyddiad a wnaethant hefyd mewn perthynas â darparu prydau ysgol wrth gwrs, ac mae hynny’n sicr wedi cael llawer o sylw yr wythnos hon. Fodd bynnag, fel y gwyddoch, wrth inni barhau i fynd i'r afael â'r pandemig hwn, mae'r sefyllfa'n parhau i fod yn heriol. A gaf fi ofyn pa drafodaethau pellach rydych wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynglŷn â chyllid, pe baent angen dyfeisiau eraill, a pha sicrwydd y gallwch chi ei roi y bydd y cyllid hwnnw ar gael drwy grant Llywodraeth Cymru? Diolch.
Diolch, Lynne, ac a gaf fi ddiolch ichi am gydnabod gwaith swyddogion yn Llywodraeth Cymru, swyddogion mewn llywodraeth leol, ac yn wir ysgolion eu hunain a lwyddodd i weithredu mor gyflym yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf? Rydym yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol i nodi anghenion ychwanegol ar hyn o bryd. Byddwn yn dosbarthu 36,000 o ddarnau eraill o offer yn ystod yr wythnosau nesaf, ac rydym yn gweithio'n agos iawn i nodi unrhyw adnoddau ychwanegol y bydd eu hangen yn ychwanegol at hynny, ac rwyf wedi cael sgyrsiau cynhyrchiol iawn gyda Rebecca Evans, y Gweinidog cyllid, mewn perthynas â sicrhau nad yw cyllid yn rhwystr i fynd i'r afael ag anghenion awdurdodau lleol wrth iddynt gael eu cyflwyno imi.
Weinidog, rydych wedi ateb nifer o gwestiynau am gysylltedd digidol, felly efallai y byddaf ychydig yn fwy penodol yn fy nghwestiwn. Rydych chi a minnau'n byw ym Mhowys, felly rydym yn gwybod yn iawn am y materion a'r problemau sy'n codi gyda diffyg band eang. Mae fy mhryder yn ymwneud â'r rhaniad sy'n dod i'r amlwg, rwy'n credu, yn anffodus, rhwng y Gymru drefol a'r Gymru wledig. Tybed pa drafodaethau rydych wedi'u cael yn benodol gyda'ch cyd-Aelodau yn y Llywodraeth, yn enwedig Ken Skates a Lee Waters, ar ailflaenoriaethu'r broses o gyflwyno band eang ledled Cymru, oherwydd, yn aml iawn, gwelwn fod yr ardaloedd hawdd eu cyflawni'n cael eu cyflawni yn gyntaf, a bod yr ardaloedd anoddaf yn cael eu gadael tan yn olaf, ac mae canlyniad negyddol amlwg i hynny yn sgil y ffaith bod plant yn ardaloedd gwledig fy etholaeth i a'ch etholaeth chi ar eu colled. Felly, tybed pa drafodaethau rydych chi wedi'u cael gyda hwy ynghylch ailflaenoriaethu cyflwyno band eang?
Diolch, Russell, ac a gaf fi gofnodi fy niolch i Gyngor Sir Powys, sydd wedi defnyddio rhywfaint o'u cyllideb gyfalaf eu hunain i ychwanegu at yr adnoddau sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru mewn ymdrech i gyflwyno dyfeisiau ychwanegol i bawb sy'n astudio yn y chweched dosbarth ym Mhowys yn ystod y tymor hwn? Ac mae Powys i fod i gael eu cyfran deg o'r 36,000 o ddyfeisiau ychwanegol rydym yn aros iddynt gael eu cyflenwi ar hyn o bryd, ond mae'n dangos ymrwymiad y cyngor hwnnw i geisio sicrhau bod gan bob dysgwr y cyfarpar a'r offer sydd eu hangen arnynt.
Fel y dywedais yn gynharach, mae cysylltedd yn dal i fod yn bryder ledled Cymru, ac rydym yn ymwybodol o hyn yn y Llywodraeth. Mae Lee Waters a Julie James yn edrych i weld pa atebion arloesol y gallwn eu mabwysiadu ar hyn o bryd, gan gydnabod bod y math hwnnw o gysylltedd nid yn unig yn helpu dysgwyr yn ystod y cyfyngiadau symud, ond cymunedau gwledig yn gyffredinol. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn dysgu, onid ydym, nad pethau 'braf i'w cael' yw'r rhain, ond pethau sy'n 'rhaid eu cael' yn ystod y cyfnod ansicr hwn, nid yn unig i blant a dysgwyr, ond hefyd i bobl sy'n gorfod gweithio gartref, neu sy'n ceisio dal i fynd drwy gael cysylltedd digidol.
Weinidog, mae'n amlwg nawr, onid yw, mai cysylltedd yw un o'r hawliau sylfaenol hynny sydd gan bob un ohonom, ochr yn ochr â nwy, dŵr a thrydan. Rwyf am ailbwysleisio'r pwynt sydd wedi'i wneud, a'i wneud hyd yn oed yn gliriach efallai. Gwn mai fforddiadwyedd y cysylltedd yw'r broblem mewn gwirionedd i bobl mewn rhai cartrefi yn fy etholaeth, nid argaeledd na lefel y cysylltedd. Hynny yw, gwn fod Rhondda Cynon Taf wedi gwneud cryn dipyn o waith, gan weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru, mewn perthynas ag offer, ond hefyd yn nodi'r cartrefi lle na all pobl fforddio ei gael, ac o ganlyniad nid yw'r plant, naill ai'n agored neu'n isganfyddol, yn gallu cael mynediad at y cysylltedd hwnnw ac nid ydynt yn gallu cymryd rhan. Nawr, rwy'n gwybod ei fod yn fater y mae gan RhCT bryderon yn ei gylch. Tybed a yw'n fater y gallech roi sylwadau penodol arno—cymorth ariannol i'r teuluoedd na allant ei fforddio.
Diolch, Mick. Fel y dywedais, gallwn gynorthwyo teuluoedd i ddarparu dyfeisiau MiFi. Rydym yn gweithio'n agos gyda chymheiriaid yn yr Adran Addysg yn Lloegr, sy'n gweithio gyda chwmnïau cyfathrebu i weld beth y gellir ei wneud o ran fforddiadwyedd a mynediad at ddata. Ac er ein bod eisiau lleihau nifer y plant sy'n mynychu eu hysgolion ar hyn o bryd, ac y dylent fod ar agor yn bennaf ar gyfer plant gweithwyr allweddol a phlant sy'n agored i niwed fel rhwyd ddiogelwch sylfaenol, a gaf fi ei gwneud yn glir fod hyblygrwydd i awdurdodau lleol a phenaethiaid ddarparu ar gyfer disgyblion os yw cysylltedd yn rhywbeth sy'n rhwystr gwirioneddol i'w haddysg? A dyna'r rhwyd ddiogelwch derfynol rydym wedi'i rhoi ar waith fel bod hyblygrwydd i awdurdodau lleol ac ysgolion ymateb i hynny, o gofio ein bod yn ceisio cadw'r niferoedd yn ein hysgolion mor isel â phosibl am resymau diogelwch COVID.