Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 13 Ionawr 2021.
Weinidog, rwy’n croesawu canfyddiadau’r Sefydliad Polisi Addysg, a ddywedodd fod dyfeisiau digidol yng Nghymru wedi’u cyflwyno’n llawer cyflymach nag yng ngwledydd eraill y DU, canfyddiad a wnaethant hefyd mewn perthynas â darparu prydau ysgol wrth gwrs, ac mae hynny’n sicr wedi cael llawer o sylw yr wythnos hon. Fodd bynnag, fel y gwyddoch, wrth inni barhau i fynd i'r afael â'r pandemig hwn, mae'r sefyllfa'n parhau i fod yn heriol. A gaf fi ofyn pa drafodaethau pellach rydych wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynglŷn â chyllid, pe baent angen dyfeisiau eraill, a pha sicrwydd y gallwch chi ei roi y bydd y cyllid hwnnw ar gael drwy grant Llywodraeth Cymru? Diolch.