Ymgysylltu â Phleidleiswyr Newydd

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 13 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:20, 13 Ionawr 2021

Wel, cymryd pob cyfle sydd ar gael i'r Aelodau wneud hynny pan rŷch chi naill ai'n siarad yn uniongyrchol ar Zoom mewn unrhyw gyfarfod â phobl ifanc yn eich etholaeth chi, neu'n siarad ar y cyfryngau yn ehangach. Fe ges i gyfle ar y rhaglen Heno nos Lun i hyrwyddo unwaith eto yr hawl newydd sydd gan bobl ifanc yng Nghymru—pobl 16 ac 17 oed—i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd. Felly, defnyddiwch eich cyfryngau cymdeithasol, a defnyddiwch bob cyfrwng posibl arall sydd gyda chi, i hyrwyddo realiti'r sefyllfa nawr bod gan bobl ifanc y bleidlais yma, gan annog cymaint ohonyn nhw yn gyntaf i sicrhau eu bod wedi cofrestru ar eu cofrestrau lleol, ac wedyn i ddefnyddio eu pleidlais nhw. Mae'n siŵr y bydd yna damaid bach o wleidyddiaeth bleidiol yn dod i mewn i hynny wrth inni agosáu tuag at yr etholiad, ond yr hyn sydd bwysicaf oll yw bod pobl Cymru, yn eu cyfanrwydd, yn defnyddio eu pleidlais, ond bod pobl ifanc 16 ac 17 oed yn ei defnyddio hi am y tro cyntaf yn etholiad y Senedd.