Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 13 Ionawr 2021.
Lywydd, er ein bod yn byw yn yr amgylchedd anarferol hwn, mae cyfle gwych yn codi nawr o ddysgu ar-lein. Ymddengys i mi ei fod yn rhywbeth mwy uniongyrchol, sef ei ddefnyddio hefyd fel offeryn ymgysylltu—nid ar gyfer unrhyw fath o gyfarwyddyd gwleidyddol, ond ar gyfer nodi'n benodol, ymhlith y grŵp 16 i 17 oed hwnnw, a hyrwyddo'r hawl i bleidleisio, yr hawl i gofrestru, a'i wneud yn rhan ohono. Mae'n offeryn a allai hyrwyddo hynny. Tybed a ydych wedi meddwl sut y gallai hynny ddigwydd? Gwn y gallai hynny olygu ymgysylltu â'r Gweinidog addysg neu beth bynnag, ond ymddengys i mi ei fod yn gyfle na ddylid ei golli.