Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 13 Ionawr 2021.
Hefyd, o dan y lefelau rhybudd a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ddiwedd y llynedd, nodwn y gall campfeydd, cyrsiau golff a chyfleusterau hamdden eraill aros ar agor ar bob lefel ac eithrio ar lefel 4. Credaf fod llawer o ddefnyddwyr a gweithredwyr yn croesawu'r eglurder hwn, er nad yw'n fawr o gysur ar hyn o bryd wrth gwrs gyda mesurau lefel rhybudd 4 ar waith yng Nghymru gyfan.
Nawr, mae'r ail ddeiseb rydym yn ei thrafod heddiw yn ymwneud â chyrsiau golff, ac mae hefyd yn pwysleisio'r manteision i les corfforol a meddyliol y gall golff ei gynnig i'r bobl sy'n ei chwarae. Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sam Evans, a denodd dros 6,300 o lofnodion. Unwaith eto, mae'n un o nifer o ddeisebau a gyflwynwyd i'r Senedd ar y pwnc penodol hwn drwy gydol y pandemig. Mae'r ddeiseb hon yn dadlau bod natur awyr agored a'r pellter cymdeithasol naturiol sy'n digwydd gyda golff yn gwanhau'r ddadl dros gau cyrsiau golff. Fodd bynnag, fel gyda champfeydd, mae'n ofynnol i gyrsiau golff gau yn ystod cyfyngiadau lefel 4, fel y rhai sydd mewn grym ar hyn o bryd.
Roedd deiseb arall a gyfeiriwyd at y pwyllgor ar y pwnc hwn yn gwneud y pwynt fod golff yn fath o ymarfer corff a rhyngweithio cymdeithasol y mae llawer o bobl hŷn yn ei fwynhau, pobl nad ydynt yn gallu gwneud mathau eraill o ymarfer corff awyr agored. Gallai hyn fod yn arwyddocaol, o ystyried yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar y grŵp hwn, gan gynnwys drwy ofynion gwarchod ac ynysu cymdeithasol dwys. Yn fwy cyffredinol, er eu bod yn fathau gwahanol iawn o weithgarwch chwaraeon, mae'n amlwg y gall chwarae golff gynnig manteision tebyg o ran iechyd meddwl a lles i ddefnyddio'r gampfa neu gymryd rhan mewn chwaraeon eraill.
Ac rwyf am droi yn awr at sefyllfa chwaraeon tîm. Mae'r drydedd ddeiseb sy'n cael ei thrafod heddiw yn ymwneud â phêl-droed amatur. Fe'i crëwyd gan Mark Morgans a'i llofnodi gan fwy na 5,300 o bobl. Fodd bynnag, nid oes gennyf amheuaeth na fyddai llawer o'r pwyntiau y mae'n eu gwneud yr un mor berthnasol i chwaraeon tîm eraill ac yn rhannol, mae'r pwyllgor wedi cytuno i gyflwyno'r ddeiseb ar y sail honno. Mae'n bosibl fod sefyllfa chwaraeon tîm yn fwy cymhleth na'r pethau eraill a nodais hyd yma. Cânt eu chwarae mewn amrywiaeth llawer ehangach o leoliadau, o stadia bach i barciau lleol, ac o dan reolau a oruchwylir gan amrywiaeth o wahanol gyrff llywodraethu. Ac wrth gwrs, gall ffactorau eraill effeithio ar y risg o drosglwyddo feirysau, megis a yw'r gamp dan sylw'n cael ei chwarae dan do neu yn yr awyr agored a lefel y cyswllt corfforol rhwng y rhai sy'n cymryd rhan a maint y timau sy'n cystadlu.
Mae nifer o'r mesurau sydd ar waith hefyd yn effeithio ar chwaraeon tîm. Fodd bynnag, y broblem benodol a godwyd gan y ddeiseb hon yw'r 'rheol 30' fel y'i gelwir—nifer y rhai y caniateir iddynt gymryd rhan mewn gweithgaredd a drefnir yn yr awyr agored. Cyflwynwyd y ddeiseb hon cyn cyflwyno cyfyngiadau lefel 4, lle gwaherddir y rhan fwyaf o weithgarwch wedi'i drefnu. Fodd bynnag, ar ryw bwynt, fel rydym i gyd yn gobeithio ac yn gweddïo, fe fydd Cymru mewn sefyllfa i ddychwelyd at lefel is o gyfyngiadau ac mae'n debyg y bydd yr uchafswm o 30 o bobl i allu cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored neu 15 ar gyfer gweithgareddau dan do yn weithredol unwaith eto. Felly, mae'r ddeiseb yn gwneud y pwynt fod hyn yn ei gwneud hi'n anodd cynnal gemau amatur cystadleuol, o ystyried eu bod yn cynnwys swyddogion a staff yn ogystal â'r chwaraewyr eu hunain.
Nawr, mae'r pwyllgor wedi ystyried tystiolaeth gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn ddiweddar mewn perthynas â deiseb arall. Ynddi, nodwyd eu cefnogaeth i gynnydd yn nifer y bobl y caniateir iddynt gymryd rhan mewn chwaraeon awyr agored wedi'u trefnu, ac argymhellwyd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cynyddu'r uchafswm i 50 o bobl o dan gyfyngiadau lefel rhybudd 2 er mwyn creu dull mwy graddol o symud drwy'r haenau hyn.
Nawr, rwy'n cydnabod na fyddai hyn yn cael effaith ar unwaith a bod cyfyngiadau lefel 2 yn ymddangos braidd yn bell ar hyn o bryd. Fodd bynnag, efallai mai dyma'r union fath o neges gadarnhaol a allai helpu mwy o dimau a'u chwaraewyr i gynllunio ar gyfer ailddechrau'n llawnach yn nes ymlaen yn y gwanwyn a'r haf, pan fyddwn i gyd yn gobeithio, rwy'n siŵr, y bydd dyddiau tywyllach y pandemig hwn y tu ôl i ni.
Wrth gloi'r sylwadau agoriadol hyn, Ddirprwy Lywydd, hoffwn gydnabod bod pob un o'r deisebau hyn yn codi materion gwahanol a'u bod yn ymwneud â set wahanol o gyfyngiadau ac amgylchiadau. Ein bwriad, fel pwyllgor, yw y dylai eu trafod gyda'i gilydd ymestyn yn hytrach na lleihau arwyddocâd y materion a godwyd. Credwn ei fod yn tynnu mwy o sylw at bwysigrwydd chwaraeon a gweithgarwch corfforol i'r nifer fawr o bobl sy'n cymryd rhan ynddynt, ac i'r rhai sy'n gwylio, yn wir. Edrychwn ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau eraill heddiw yn ystod y ddadl a diolch i bob un ohonoch am y cyfle i drafod y materion pwysig hyn heddiw. Diolch yn fawr.