Part of the debate – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 19 Ionawr 2021.
Rwy'n fodlon cadarnhau nad wyf yn credu bod llyffetheiriau gweinyddol yn llesteirio'r rhaglen frechu yma yng Nghymru. Rwy'n deall rhwystredigaeth ein staff sydd eisiau bod allan yn brechu mwy. Rwy'n deall sefyllfa nid dim ond practis cyffredinol, ond fferylliaeth gymunedol hefyd. Wrth i gyflenwadau AstraZeneca gynyddu fel y disgwyliwn iddyn nhw—nid dim ond drwy sgyrsiau â Llywodraeth y DU y mae hynny, ond hefyd o drafod uniongyrchol rhwng Llywodraeth Cymru ac AstraZeneca eu hunain—rydym yn disgwyl cael llawer mwy o gyflenwadau'n raddol drwy weddill y gwanwyn. Mae hynny'n golygu y byddwn yn gallu cyflawni'n gyflymach fyth.
Rwyf wedi cael sgyrsiau uniongyrchol gyda Nadhim Zahawi, Gweinidog brechlynnau'r DU, am y cyflenwad i Gymru, oherwydd rhan o'm pryder am gyhoeddiad annisgwyl y Prif Weinidog ar y pedwar grŵp cyntaf yn cael eu datrys erbyn canol mis Chwefror oedd bod gennym ni, wrth gwrs, gyfran uwch fel poblogaeth o'r pedwar grŵp cyntaf hynny na Lloegr, ac mae angen i ni sicrhau na fyddwn yn cael ein dal yn ôl yn artiffisial gan ddiffyg cyflenwad drwy fynd ati mor gyflym â phosib. Yn y sgyrsiau hynny, cafwyd sicrwydd uniongyrchol y bydd gennym ni yr holl gyflenwad sydd ei angen arnom ni i allu cyflawni'r garreg filltir honno ar yr un pryd â chenhedloedd eraill y DU. Rydym yn derbyn o leiaf ein cyfran o'r boblogaeth, fel yr ydym ni wedi cytuno. Felly, ydym, rydym yn cael cyfran deg ac rydym yn gwneud defnydd da o'r gyfran deg honno o'r holl frechlynnau yr ydym yn eu derbyn.
Rwyf yn credu ei bod hi'n ddefnyddiol ailadrodd y sylw yr ydych chi'n ei wneud, serch hynny, fod cyfyngiadau symud yn gweithio ar y telerau y cânt eu cyflwyno. Maen nhw'n helpu i arafu'r gyfradd drosglwyddo, i leihau faint o niwed sy'n cael ei achosi, i sicrhau nad yw ein GIG yn cael ei lethu, i ganiatáu inni gyfyngu ar y gyfradd drosglwyddo, i'w weld yn gostwng, ac i ganiatáu gwneud gwahanol ddewisiadau wrth i frechiad ddiogelu mwy o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed. Does dim llaesu dwylo gan y Llywodraeth hon, dim diffyg dealltwriaeth o'r angen am frys, cyflymder a darpariaeth, ac rwy'n falch iawn—fel yr wyf wedi dweud fwy nag unwaith—o'r gwaith y mae staff ein GIG yn ei wneud i amddiffyn cymaint o'n pobl sy'n agored i niwed cyn gynted â phosib ym mhob cymuned ledled Cymru.