Cwestiwn Brys: Y Cynllun Brechu yn erbyn COVID-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 19 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 1:50, 19 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, mae'r Prif Weinidog, o wneud y datganiadau a wnaeth ddoe, wedi achosi llawer o boen meddwl, pryder a gofid. Mewn gwirionedd, mae'n arwain pobl agored i niwed i gredu eu bod nhw mewn mwy o berygl o ddal y feirws erbyn hyn, a hynny ddim mwy nag yn Aberconwy.

A ydych chi'n cytuno â'r Prif Weinidog na ddylai'r holl frechlynnau Pfizer sydd ar gael fod ar gael cyn gynted â phosibl? Fe wnaethoch chi honni mai'r her oedd cael digon o seilwaith i ddarparu pigiad Pfizer heb ei wastraffu, ond sut gallwch chi sefyll wrth yr hyn yr ydych chi wedi ei ddweud pan mai dim ond tri diwrnod yr wythnos y mae lleoliadau i lawr y ffordd o ble'r wyf i yma yn Venue Cymru wedi bod yn gweithio, yn hytrach na'r chwe diwrnod a gytunwyd, gan nad ydyn nhw'n gallu cael digon o frechlynnau? Sut ydych chi'n ymateb i feddygon teulu sy'n gweithio yn fy etholaeth i sy'n gandryll gan fod rhai wedi cytuno i roi 100 dos y dydd am chwe diwrnod yr wythnos, ac eto yn ystod y pythefnos diwethaf, dim ond 100 yr wythnos y maen nhw wedi llwyddo i'w cwblhau? Mae hynny oherwydd nad ydyn nhw'n gallu cael gafael ar y cyflenwadau. Pam nad ydych chi'n gwrando ar y gweithwyr iechyd proffesiynol a'r holl staff iechyd hynny sy'n gweithio'n galed yn rhoi'r brechlynnau hyn? Fel y soniwyd, mae Dr David Bailey, cadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru, yn gofyn i chi—a dyfynnaf— roi'r gorau i eistedd ar gyflenwadau a bwrw ati.

Ac fel y dywedodd meddyg teulu wrthyf i ddoe, 'A wnewch chi ddweud wrth Mr Vaughan Gething oddi wrthyf i fy mod i eisiau cael y brechiadau hynny ym mreichiau ein pobl yma yn Aberconwy? Dydyn nhw'n dda i ddim yn eistedd ar silff a'r cwbl sy'n mynd i lwyddo os bydd hynny'n digwydd yw y bydd y feirws yn anoddach i'w drechu a bydd cleifion yn colli bywydau.' Ni all fod yn fwy difrifol na hynny, Gweinidog, felly gwrandewch ar yr hyn sy'n cael ei ddweud wrthych chi. Diolch, Llywydd.