Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 19 Ionawr 2021.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Gan fod meddygon teulu a fferyllfeydd erbyn hyn yn darparu brechiadau COVID yng Nghymru, byddwn yn cynyddu cyfraniad optometryddion a deintyddiaeth i ddarparu adnoddau a chapasiti ychwanegol wrth i nifer y brechlynnau sydd ar gael gynyddu.