Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 19 Ionawr 2021.
Llywydd, mae'r Aelod yn hollol anghywir yn ei ddisgrifiad o'r sefyllfa yn y gogledd. Erbyn 8 a.m. ddoe, roedd 31,095 o ddinasyddion yn y gogledd wedi cael eu brechu, a dyna'r nifer uchaf o gryn dipyn o unrhyw fwrdd iechyd yn unman yng Nghymru. Felly, ymhell o gael eu dal yn ôl, mewn gwirionedd, mae gweithredoedd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn eu rhoi ar y blaen o ran brechu yma yng Nghymru. Ac mae hynny oherwydd yr ymateb anhygoel yr ydym ni wedi ei gael gan y gymuned meddygon teulu a'r gymuned fferylliaeth gymunedol yn y gogledd. Mae pob un o'r 98 practis gofal sylfaenol yn Betsi Cadwaladr wedi nodi eu bod nhw'n dymuno cymryd rhan a darparu brechlyn AstraZeneca.
Nawr, mae Darren Millar yn iawn ein bod ni wedi gobeithio cael 26,000 yn fwy o ddosau o frechlyn Rhydychen nag y byddwn ni'n eu derbyn yr wythnos hon. Ac mae hynny wedi golygu bod rhai cynlluniau a oedd yno yn y gogledd i gyflymu brechu ymhellach fyth wedi gorfod cael eu dal yn ôl. Y newyddion da yw bod Llywodraeth y DU yn ein sicrhau y byddwn ni'n cael y cyflenwad hwnnw yr wythnos nesaf, yn ogystal â'r hyn yr oeddem ni eisoes yn ei ddisgwyl yr wythnos nesaf. Felly, bydd hynny'n ostyngiad dros dro iawn i'r brechlyn y byddem ni'n ei ddisgwyl fel arall.
Mae meddygon teulu yn eu meddygfeydd eu hunain mewn sefyllfa well o lawer i ddarparu brechlyn Rhydychen na'r brechlyn Pfizer, am resymau y bydd llawer o Aelodau yn ymwybodol ohonynt. Mae'n rhaid storio'r brechlyn Pfizer mewn amodau penodol iawn, nid yn unig o ran tymheredd ond o ran amodau eraill hefyd. Mae'n golygu bod brechlynnau Pfizer yn addas ar gyfer y canolfannau brechu torfol—mae tri ohonyn nhw yn y gogledd eisoes—ac ar gyfer y canolfannau brechu mewn ysbytai—tri o'r rheini yn y gogledd—a bydd y gymuned meddygon teulu yn canolbwyntio ar frechlyn AstraZeneca-Rhydychen. Llwyddiant y strategaeth honno yw sail y llwyddiant sylweddol iawn yr ydym ni'n ei weld yn y gogledd ac y gwn y bydd yr Aelod eisiau ei gydnabod a'i ddathlu.