Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 19 Ionawr 2021.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Rhagwelir y bydd y pandemig yn cynyddu tlodi plant yn Llanelli a ledled Cymru. Byddai'r effaith honno yn cael ei gwaethygu drwy ddiddymu'r cynllun cadw swyddi yn gynamserol ac unrhyw wrthodiad i gynnal y cynnydd wythnosol o £20 i gredyd cynhwysol y tu hwnt i ddiwedd mis Mawrth.