1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 19 Ionawr 2021.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefel y tlodi plant yn Llanelli? OQ56147
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Rhagwelir y bydd y pandemig yn cynyddu tlodi plant yn Llanelli a ledled Cymru. Byddai'r effaith honno yn cael ei gwaethygu drwy ddiddymu'r cynllun cadw swyddi yn gynamserol ac unrhyw wrthodiad i gynnal y cynnydd wythnosol o £20 i gredyd cynhwysol y tu hwnt i ddiwedd mis Mawrth.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb. Mewn ateb cynharach, dywedodd wrthym, ac ni fyddwn i'n anghytuno, na allwn ni ymddiried yn y Torïaid, a phan ddaw'n fater o ddarparu cymorth i'n teuluoedd tlotaf a'n plant tlotaf, nid wyf innau'n credu y gallwn ni ymddiried ynddyn nhw ychwaith. Mae'r Prif Weinidog yn cyfeirio at y bygythiad o dynnu'r cynnydd o £20 i gredyd cynhwysol yn ôl, ond o gofio'r hyn a ddywedodd wrthym ni am beidio ag ymddiried yn y Torïaid, a gaf i ofyn iddo unwaith eto ailystyried ei benderfyniad i beidio â cheisio datganoli budd-daliadau, fel yr argymhellwyd gan un o bwyllgorau'r Senedd hon a chan waith ymchwil a melinau trafod annibynnol, oherwydd byddai hynny yn ein galluogi, er gwaethaf yr heriau ariannol, i ddatblygu system ein hunain a fyddai'n decach o ran cynorthwyo teuluoedd yn y sefyllfaoedd hyn? Yn y cyfamser, yn dilyn y trafodaethau a gawsom yr wythnos diwethaf, a wnaiff ef ystyried ymarferoldeb ymestyn prydau ysgol am ddim i'r holl blant hynny y mae eu teuluoedd yn derbyn credyd cynhwysol? Os na allwn ni ddatganoli prif ran y system fudd-daliadau, onid yw'n bryd i'w Lywodraeth ef gynorthwyo'r teuluoedd hynny mewn ffyrdd sydd o fewn cymhwysedd presennol y Senedd hon?
Llywydd, diolchaf i Helen Mary Jones am y cwestiynau ychwanegol hynny. Rwy'n cael fy mherswadio gan lawer o'r hyn a ddywedwyd yn yr adroddiad a ddarparwyd gan bwyllgor y Senedd o dan gadeiryddiaeth John Griffiths ynghylch archwilio datganoli'r gwaith o weinyddu agweddau ar y system fudd-daliadau. Roedd yn adroddiad defnyddiol iawn, ac mae'n helpu i lywio meddylfryd Llywodraeth Cymru, ac rwy'n hapus iawn i barhau i archwilio hynny gydag Aelodau sydd o'r un farn.
O ran y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am brydau ysgol am ddim, bydd y newidiadau yr ydym ni wedi eu gwneud i'r hawl i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y tymor hwn yn ymestyn cymhwysedd i filoedd yn fwy o blant dros y flwyddyn neu ddwy nesaf. Polisi Plaid Cymru yw darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn teulu lle mae credyd cynhwysol yn cael ei hawlio. Esboniais i'r Aelod yr wythnos diwethaf, os oes gan y teuluoedd hynny ddau blentyn fesul teulu, bod hynny yn gost o £67 miliwn y flwyddyn, a byddai hynny yn codi i dros £100 miliwn y flwyddyn. Darparwyd y costau eraill hynny i mi gan swyddogion yn Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ein helpu i weinyddu'r cymorth yr ydym ni'n ei ddarparu ar hyn o bryd i deuluoedd sy'n cael prydau ysgol am ddim. Mae'r rheini yn ddewisiadau y gall Llywodraethau eu gwneud.
Ond gofynnodd y holwr diwethaf, Llywydd, i mi ddod o hyd i arian Llywodraeth Cymru i helpu teuluoedd sydd mewn trafferthion oherwydd y dreth gyngor. Mae gan Blaid Cymru bolisi o ddarparu £35 yr wythnos i blant sy'n cael prydau ysgol am ddim, unwaith eto am gost o filiynau lawer o bunnoedd. Mae ganddi bolisi o ddarparu gofal plant am ddim o 12 mis oed, am gost o £950 miliwn. Mae ganddi bolisi o ofal cymdeithasol am ddim i bawb yng Nghymru. Pan fo pleidiau yn cynnig polisïau, mae'n rhaid iddyn nhw allu egluro yn gredadwy i bobl nid pam mae rhywbeth yn ddymunol, ond pam y gellir ei gyflawni hefyd gyda'r adnoddau sydd gan Lywodraeth Cymru, ac mae arnaf i ofn pan fyddwch chi'n dechrau adio'r rhestr faith honno o bethau dymunol, rwy'n credu bod llawer iawn o farciau cwestiwn yn dechrau dod i'r amlwg ynglŷn â'r gallu i'w cyflawni.