1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 19 Ionawr 2021.
4. Beth yw asesiad cyfredol y Prif Weinidog o COVID-19 yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan? OQ56155
Llywydd, rydym ni'n parhau i weld tueddiad o gyfraddau mynychder a chyfraddau profion positif yn gostwng ar draws pob ardal awdurdod lleol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Fodd bynnag, mae'r niferoedd yn dal i fod yn uchel ac mae capasiti ein GIG yn dal i fod o dan bwysau mawr. Mae'n rhaid i'r holl ymdrechion barhau i ostwng y cyfraddau hynny ymhellach.
Prif Weinidog, mae'r rhaglen frechu yn hanfodol i achub bywydau, i leihau'r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd gwladol, gyda'r holl fanteision sy'n dod yn sgil hynny i wasanaethau iechyd COVID-19 a gwasanaethau iechyd nad ydynt yn rhai COVID-19, ac o ran caniatáu i gyfyngiadau gael eu lleddfu er mwyn gweld dychweliad gweithgarwch economaidd, ein hysgolion a byw yn fwy normal. Yn ddealladwy, mae disgwyliadau o gyflwyniad y rhaglen yn uchel iawn, ac mae fy etholwyr eisiau gweld pob ymdrech yn cael ei gwneud i frechu cynifer o bobl â phosibl, cyn gynted â phosibl. Gwn, Prif Weinidog, o'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud heddiw ac yn y gorffennol, eich bod chi wedi ymrwymo yn llwyr i hyn, ac felly hefyd Llywodraeth Cymru yn gyfunol, ac wrth gwrs, felly hefyd ein GIG. Prif Weinidog, a wnewch chi roi sicrwydd i'm hetholwyr sydd wedi cysylltu â mi yma yn Nwyrain Casnewydd y bydd brechu yn mynd rhagddo gyda'r brys mwyaf, gyda'r 4 grŵp blaenoriaeth uchaf yn cael cynnig brechlyn erbyn canol mis Chwefror, a'r grwpiau eraill yn dilyn cyn gynted â phosibl, i'n cael ni allan o'r argyfwng ofnadwy hwn yn yr amser byrraf posibl?
Llywydd, ni allaf wneud dim gwell nag adleisio yn union yr hyn a ddywedodd John Griffiths yn ei gwestiwn atodol. Polisi Llywodraeth Cymru yw brechu cymaint o bobl â phosibl, cyn gynted â phosibl. Ac mae'r ymdrechion yr ydym ni eisoes wedi eu trafod yma y prynhawn yma ymhlith staff gofal iechyd yng Ngwent yn dangos yr ymrwymiad sydd ganddyn nhw i'r union bolisi hwnnw. Nawr, rwyf i eisoes wedi nodi, Llywydd, y cynnydd cyflym iawn i nifer y meddygfeydd teulu yn etholaeth yr Aelod a fydd yn darparu'r brechlyn yr wythnos hon. Ond mae hynny yn ogystal â'r pedair canolfan frechu torfol sy'n gweithredu yn ardal Gwent ar hyn o bryd, ac, fel y gwn y bydd John Griffiths yn ymwybodol, agorodd canolfan frechu torfol fawr yng Nghasnewydd ddoe, yn gynharach na'r disgwyl, ac mae hynny yn nodweddiadol o'r hyn sy'n digwydd ledled Cymru.
Fel y dywedais mewn ateb cynharach, Llywydd, pan roeddwn i yma yr wythnos diwethaf, roeddwn i'n cyflwyno ein huchelgeisiau ar gyfer canolfannau brechu torfol, meddygfeydd teulu, ac rydym ni'n rhagori ar yr uchelgeisiau hynny, fel yr ydym ni yn ei wneud yng Nghasnewydd, oherwydd yr holl ymdrechion sy'n cael eu gwneud. Ac, oherwydd hynny, gall y boblogaeth leol yn etholaeth yr Aelod fod yn ffyddiog y bydd y cynlluniau yr ydym ni'n eu cyflwyno yn cael eu cyflawni, y byddan nhw'n cael eu cyflawni ar frys a chyda phenderfyniad, a phan fyddwn ni'n cwblhau'r pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf, y bydd yr ymdrechion hynny yn parhau ac yn ehangu ymhellach wrth i ni yrru ein ffordd i lawr y naw prif grŵp blaenoriaeth ac yna symud ymlaen i weddill y boblogaeth.