Part of the debate – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 19 Ionawr 2021.
Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar frechiad COVID-19 i swyddogion yr heddlu. Wrth ymateb i chi yr wythnos diwethaf, cyfeiriais at alwadau gan Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru i blismona gael ei ystyried am rywfaint o flaenoriaeth ar raglen frechu COVID-19. Yn hytrach, dywedodd y Gweinidog iechyd, Vaughan Gething, wrthyf wedyn, ac rwy'n dyfynnu,
Mae yna effaith wirioneddol o ran symud grwpiau staff galwedigaethol o gwmpas a chyfeiriodd at dreialon profi llif unffordd ar gyfer yr heddlu. Ddoe, dywedodd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru wrthyf, ac rwy'n dyfynnu, bod 'ffynonellau dibynadwy iawn sy'n gweithio yn y canolfannau brechu' wedi cysylltu â nhw dros y penwythnos, ac fe wnaethon nhw ddweud fod ysgrifenyddion ysbytai a hyd yn oed weithwyr cymdeithasol sy'n gweithio gartref yn cael y brechlyn, ac eto i gyd nid yw plismyn rheng flaen yn cael eu hystyried yn risg, na hyd yn oed yn cael defnyddio unrhyw frechlynnau sbâr neu rai sydd heb eu defnyddio. Ychwanegodd, 'Hyd yn oed pe byddai modd rhoi swyddogion heddlu rheng flaen ar restr wrth gefn, fel sy'n digwydd mewn rhai rhannau o Loegr, byddai hynny'n ddechrau.' Mewn e-bost gan un o swyddogion heddlu rheng flaen y gogledd heddiw dywedwyd 'Mae ymdeimlad o sioc a dryswch bob amser pan fyddaf i'n siarad â phobl a rhoi gwybod iddyn nhw nad yw'r heddlu'n cael eu hystyried yn grŵp blaenoriaeth ar gyfer y brechlyn. Rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru ymrwymo i roi rhywfaint o flaenoriaeth i blismon', meddai, 'lle mae angen i ni ddiogelu'r amddiffynwyr sydd, yn y pen draw, yn ein hamddiffyn ni i gyd.' Rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny.