3. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Ymateb Llywodraeth Cymru i Argymhellion Terfynol Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 19 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:15, 19 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Erbyn hyn, mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â Thrafnidiaeth Cymru, wedi cwblhau adolygiad cychwynnol o'r holl argymhellion a wnaeth Arglwydd Burns a'i gyd gomisiynwyr. Ac, unwaith eto, rydym ni'n diolch iddyn nhw am eu gwaith. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ymateb fesul llinell er mwyn inni gael bod yn gwbl glir ynghylch statws pob un o'r argymhellion. Mae hon yn gyfres hyderus ac ymarferol o argymhellion, ac ni ellir eu cyflawni heb gael amrywiaeth o gyrff yn gweithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth. Ac yn yr ysbryd hwnnw, rwy'n dymuno ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r awdurdod lleol, y cynrychiolwyr lleol, Llywodraeth y DU a phartneriaid allweddol eraill i gyflawni glasbrint comisiwn Burns.

Yn ganolog i hyn, mae'r argymhellion yn nodi gweledigaeth ar gyfer y system drafnidiaeth gyhoeddus fodern sy'n deilwng o ddinas o faint Casnewydd. Ac fel y nodwyd yn ein strategaeth drafnidiaeth i Gymru, gweledigaeth o'r fath sydd gennym  ar gyfer Cymru gyfan. Mae'r ddadl ddyrys i chwilio am ddatrysiad priodol i fynd i'r afael â thagfeydd o amgylch Casnewydd wedi bod yn gatalydd ar gyfer newid ehangach. Mae adroddiad Burns wedi helpu i'n harwain ni ar hyd llwybr newydd, ac am y rheswm hwn rwy'n hapus i gadarnhau y byddwn ni'n derbyn yr argymhellion hyn i gyd mewn egwyddor.

Mae'r strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru yn nodi'r ddadl gref o blaid symud tuag at rwydwaith trafnidiaeth metro integredig, carbon isel ac aml-ddull ar draws Cymru, ac mae adroddiad comisiwn Burns yn nodi glasbrint ar gyfer gweithredu'r weledigaeth honno, er mai dull rhanbarthol a geir o ymdrin â chynllunio trafnidiaeth a defnydd tir. Mae'r strategaeth yn pennu pecyn o fesurau i fynd i'r afael â thagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd mewn ffordd sy'n helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd hefyd, yn ogystal â gwella ansawdd yr aer a hybu cyfiawnder cymdeithasol. Mae argymhellion y comisiwn yn cwmpasu pob dull o drafnidiaeth, ac felly mae angen rhannu'r cyfrifoldeb o'u gweithredu nhw. Mae gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd ran bwysig i'w chwarae yma, fel sydd gan Drafnidiaeth Cymru a Network Rail.

Llywydd, rydym ni eisoes wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Chyngor Dinas Casnewydd ar gyfer arwain ar y cyd y ffordd ymlaen ar gyfer mesurau bysiau a theithio llesol yn y ddinas, gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru. Mae'r adolygiad o gysylltedd undebau, dan arweiniad Syr Peter Hendy, yn gyfrwng i Lywodraeth y DU roi ymrwymiad cynnar i gyflawni'r argymhellion mewn meysydd nad ydynt wedi eu datganoli. Fe ysgrifennais i heddiw at yr Ysgrifennydd Gwladol Trafnidiaeth ac at Network Rail, gan dynnu sylw at y rhesymeg gadarn pam mae angen i'r rhwydwaith rheilffyrdd yn y rhanbarth hwn gael ei godi i'r un safon â rhannau eraill o'r DU. Ers gormod o amser mae Cymru wedi bod ar ddiwedd y ciw pan oedd Llywodraeth y DU yn buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd, ond mae hwn yn gyfle cadarnhaol i Lywodraeth y DU wneud cyfiawnder am y tanfuddsoddi a fu. Ac rwy'n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â nhw i unioni'r cam hwnnw a chyflawni'r weledigaeth hon.

Mae'r comisiwn wedi gwneud argymhellion ar gyfer pum pecyn: seilwaith; polisïau rhwydwaith; newid ymddygiad; llywodraethu trafnidiaeth; a defnydd a chynllunio tir. Mae ein hymateb fesul llinell ni yn nodi lle mae camau eisoes yn cael eu cymryd  a lle gellir gweithredu yn y dyfodol i ddatblygu ymhellach. Mae nifer o bwyntiau penodol yr hoffwn i dynnu sylw atynt heddiw ac egluro sut y bwriadwn eu datblygu.

Y cyntaf yw gwella prif reilffordd y de a threblu nifer y gorsafoedd sydd yn y rhanbarth. Gan ddefnyddio adroddiad Burns, mae fy swyddogion i wedi cynnal trafodaethau cadarnhaol eisoes gyda Network Rail ac Adran Drafnidiaeth y DU ar y  cynigion ar gyfer yr ased hwn sydd heb ei ddatganoli. Ein bwriad ni yw gweithio eto gyda Network Rail ar yr argymhellion hyn yn benodol, yn ogystal â'r gwaith ehangach o wella'r brif reilffordd, ac fe fydd Trafnidiaeth Cymru yn chwarae rhan hanfodol fel ein hasiant yn hyn o beth. Mae uned ddatblygu bwrpasol wedi ei sefydlu erbyn hyn o fewn Trafnidiaeth Cymru. Fe fydd yr uned hon yn rhoi cyngor i grŵp llywio ac, yn y pen draw, i Weinidogion Cymru ar y cynnydd yn erbyn yr holl  argymhellion.

Bydd yr Aelodau eisoes wedi gweld, yn y tabl a gyhoeddwyd heddiw, fod llawer o'r mesurau a argymhellwyd gan Arglwydd Burns ar y gweill yn barod mewn rhyw fodd neu'i gilydd. Os felly, mae'r uned ddatblygu bellach yn gyfrifol am fonitro'r cynnydd, ac adrodd i'r grŵp llywio pe byddai angen ymyrryd i wthio'r maen i'r wal.

Gan ddefnyddio'r sylfaen dystiolaeth a ddarparodd Arglwydd Burns a'r comisiynwyr, rwy'n awyddus i gynnal ymarfer  blaenoriaethu cyflym i nodi mesurau y gall yr uned ddatblygu fod â rhan weithredol yn y gwaith o'u datblygu ar fyrder. Er enghraifft, drwy weithio gyda chyngor Casnewydd, rwy'n credu y gallwn ddethol mesurau blaenoriaeth o ran bysiau a theithio llesol fel bod modd i'r uned ddatblygu weithio ar ddylunio ac ymgynghori manwl, ac yna fe allwn ni symud yn gyflym i wneud penderfyniadau ar weithredu. Gan baratoi ar gyfer y tymor hwy, mae'r uned wedi cael cyfarwyddyd i ddatblygu'n fanylach raglen gyflawni botensial ar gyfer pob un o'r argymhellion.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, gan gydnabod swyddogaeth ganolog grŵp llywio'r uned ddatblygu, rwy'n awyddus i benodi cadeirydd â'r profiad addas i arwain y gwaith datblygu. Ac fe fyddaf i'n rhoi diweddariadau pellach maes o law i roi gwybod i'r Aelodau am hynny a sut mae argymhellion ehangach y comisiwn yn datblygu. Dirprwy Lywydd, roedd cyrraedd y pwynt hwn yn daith anodd. Ond rwy'n gobeithio y bydd adroddiad Burns a'n hymateb ni iddo yn dangos y ffordd ymlaen, gan fynd i'r afael â thagfeydd a hefyd newid hinsawdd, a gwella ansawdd a chyfleoedd bywyd i bobl y de-ddwyrain a thu hwnt. Diolch.